Mae EVI yn hapus iawn i dderbyn arian trwy CWVYS ar gyfer y cynllun Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r gweithgareddau Haf o Hwyl, byddem yn cynnal Gweithdai Cerddorol, Hyfforddiant Cynhyrchu Fideo Achrededig a Sesiynau Dylunio Graffeg Canva i bobl ifanc 16-25 oed ym Mlaenau Gwent yn ystod Awst a Medi.
Nod y cynllun Haf o Hwyl ydy i gefnogi lles plant a phobl ifanc yn dilyn cyfyngiadau Covid y ddwy flynedd diwethaf. Bydd ProMo-Cymru (gwarcheidwaid EVI) yn un o’r sawl sefydliad o Gymru fydd yn cynnig gweithgareddau rhyngweithiol, creadigol ac addysgiadol cymunedol i bobl ifanc.
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/08/EVI-Summer-of-Fun-POSTER-1-1-724x1024.png)
Bydd y sesiynau cynhelir yn cynnwys hyfforddiant cynhyrchu fideo achrededig, a sesiynau hyfforddiant cynhyrchu cerddoriaeth a dylunio graffeg Canva. Manylion isod am y gweithgareddau a diweddariadau dyddiol.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu yn adnabod rhywun fydda wrth eu boddau yn ymuno â ni, cysyllta â megan@promo.cymru.
Chwilia’r hashnodau #HafoHwyl a #SummerofFun ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau digwyddiadau Haf o Hwyl cynhelir yn agos i ti.
Sesiynau i Ddod
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/09/EVI-SUMMER-OF-FUN-SMs-31-1024x1024.png)
28ain Medi | Gweithdy Creawdwyr TikTok
Eisiau buddio mwy o TikTok a dysgu sut i greu neu wella dy gynnwys fideo?
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/08/EVI-SUMMER-OF-FUN-SMs-7-1024x1024.png)
30ain Medi | Hyfforddiant Dylunio Graffeg Canva (2 awr o sesiwn)
Eisiau dylunio taflenni, creu logos, neu roi hwb i’ch cyfryngau cymdeithasol gyda dyluniadau anhygoel?
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/08/EVI-SUMMER-OF-FUN-SMs-7-1024x1024.png)
5ed Medi | Hyfforddiant Dylunio Graffeg Canva (2 awr o sesiwn)
Eisiau dylunio taflenni, creu logos, neu roi hwb i’ch cyfryngau cymdeithasol gyda dyluniadau anhygoel?
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/08/EVI-SUMMER-OF-FUN-SMs-12-1024x1024.png)
7fed – 8fed Medi | Cynhyrchu Fideo Achrededig (cwrs 2 ddiwrnod)
Diddordeb mewn gyrfa’n cynhyrchu fideo neu’n creu fideos byr proffesiynol i helpu hyrwyddo’ch gwaith neu waith eraill?
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2022/08/44908_Summer-of-Fun-Media-Pack_e16-1-1024x130.png)
Comments are closed