EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Galwad ar Gerddorion Blaenau Gwent!

Comments Off on Galwad ar Gerddorion Blaenau Gwent!

Read English here

Mae Institiwt Glynebwy yn rhoi cyfle i un cerddor lwcus o Flaenau Gwent i ennill lle bwrsari 12 mis ar y platfform newydd Cynhyrchu Cerddoriaeth, Ysgrifennu Caneuon a Mentora Busnes – ‘Session Recall’, wedi’i arwain gan y cynhyrchydd a pherchennog label Nick Brine (Oasis, Stone Roses, Bruce Springsteen, Arctic Monkeys).

Bydd yr enillydd yn derbyn aelodaeth ‘Session Recall’ am ddim ac yn cael ei gofrestru ar y Pecyn Arian am 12 mis. Byddech yn derbyn mentora un i un gyda phobl broffesiynol o’r diwydiant, mentora busnes, cyngor ysgrifennu caneuon, cyrsiau ar-lein, mynediad i weithdai cynhyrchu a gwersyll ysgrifennu caneuon, codau disgownt offer a chymorth gyda’ch cerddoriaeth wrth i chi symud ymlaen. 

Yr unig beth sy’n rhaid gwneud yw e-bostio MP3 gyda’ch dewis o gân, gyda pharagraff syml am eich hun a pam y dylech chi gael lle ar y rhaglen, beth fydd ennill yn ei olygu i chi, a byddech yn rhan o’r gystadleuaeth wedyn.

Bydd panel beirniadu sydd yn cynnwys y cynhyrchydd a pherchennog label  Nick Brine, Jon Constantine (darlithydd prifysgol a mentor busnes, cynhyrchydd/peiriannydd), Max Rafferty (The Kooks) a chynrychiolydd o Institiwt Glynebwy yn dewis yr enillydd. 

Gyrrwch eich cais nawr am gyfle i ennill y wobr anhygoel yma. 

Ceisiadau yn cau dydd Gwener 9fed Medi. E-bostiwch: competition@sessionrecall.com 

Mae’r cyfle rhaglen mentora yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU*, wedi’i ddiogelu gan ProMo-Cymru ar gyfer EVI.

Dyddiad cau: 09/09/2022


*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy