EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Hysbyseb swydd: Cogydd/Hyfforddwr yng Nghaffi 1849

Comments Off on Hysbyseb swydd: Cogydd/Hyfforddwr yng Nghaffi 1849

Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Gogydd/Hyfforddwr i ymuno’r tîm yn Institiwt Glynebwy (EVI).

Byddech yn ymuno tîm sydd yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth ym mywydau’r gymuned rydym yn ei gefnogi. Ein bwriad ydy darparu prydau iach, i bob angen dietegol, i’r gymuned ei fwynhau yn y caffi, neu adref. 

Yn gweithio’n agos gyda gwirfoddolwyr cymunedol, byddech yn gyfrifol am eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu sgiliau lletygarwch. 

Byddech yn gyfrifol am: 

– Paratoi, coginio a gweini prydau yn ôl yr angen, mewn modd amserol 
– Darparu diet amrywiol, arlwyo ar gyfer dewisiadau diwylliannol y rhai sydd yn defnyddio ein gwasanaethau 
– Arlwyo i ddefnyddwyr y gwasanaeth a digwyddiadau teuluol e.e. partïon, angladdau, cyfarfodydd bach 
– Archebu cyflenwadau o fewn y gyllideb arlwyo, gan ddefnyddio cyflenwyr cymeradwy 
– Creu prydau gan ddefnyddio cynhwysion FareShare 
– Cadw cofnodion arlwyo cywir yn unol â HACCP 
– Cymryd rhan mewn arolygiadau gan Iechyd yr Amgylchedd a/neu reolyddion gofal ac Awdurdodau Lleol 
– Cadw safon uchel o hylendid yn y gegin wrth gadw at ganllawiau HACCP a COSHH 
– Gallu rheoli gwirfoddolwyr a gweithio ar y cyd â staff eraill 

Cyflog 

£11.74 – £12.90 yr awr 

(yn cyfateb i £21,358 – £23,471, pro rata, yn ddibynnol ar brofiad) 

Oriau gwaith 

Cytundeb 21 awr /14 awr 

Dyddiad Cau

5pm, dydd Gwener 13 Mai 2022

Am wybodaeth cysylltwch â: pat@promo.cymru
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: pat@promo.cymru

RHOWCH GAIS I MEWN HEDDIW! Ymunwch â thîm EVI a helpu i wneud gwahaniaeth! 

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy