EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Help i Benderfynu Beth Sy’n Digwydd Yn EVI 

Comments Off on Help i Benderfynu Beth Sy’n Digwydd Yn EVI 

Ydych chi’n byw yng Nglynebwy neu Flaenau Gwent ac eisiau barn ar ddigwyddiadau byw sydd yn digwydd yn eich ardal? Mae Institiwt Glynebwy (EVI) yn sefydlu Grŵp Rhaglennu Cymunedol i gynllunio’r hyn fydd yn digwydd yn yr adeilad cymunedol hanesyddol yma. 

Yn dilyn cyfnod o fod wedi cau oherwydd COVID-19, mae EVI yn ailagor, ac rydym yn chwilio am eich help CHI i benderfynu ar raglen o ddigwyddiadau diwylliannol ar gyfer y dref a’r ardal gyfagos. Dychmygwch gerddoriaeth byw, comedi, theatr, digwyddiadau teuluol, arddangosfeydd a mwy! 

Mwy am EVI 

Sefydlwyd EVI yn 1849 i hyrwyddo cyfnewid diwylliannol yn yr ardal. Cafodd yr adeilad gwag ei adfywio gan ProMo-Cymru i ddatblygu’r EVI fel canolfan cymunedol a diwylliannol, gydag adnoddau yn cynnwys gofodau hyfforddi a chyfarfod, stiwdio recordio broffesiynol, caffi, bar a gofod perfformio byw. Mae’n lleoliad sydd yn cynnig rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiad menter gymdeithasol ar gyfer y cymunedau mae’n ei wasanaethu. 

Ymunwch â’n grŵp 

Wrth i ni baratoi i agor ein drysau i’r cyhoedd unwaith eto, rydym yn chwilio am eich cymorth chi. Bydd grŵp Rhaglennu Cymunedol EVI yn gyfle unigryw i gael dweud eich dweud am yr hyn sydd yn digwydd yn eich ardal. Wrth wirfoddoli eich amser byddech yn dysgu sgiliau newydd am sut mae adeilad fel hyn yn gweithredu a’r pethau sydd yn digwydd y tu ôl i’r llenni wrth baratoi rhaglen a hyrwyddo digwyddiadau. Nid oes rhaid i chi fod â phrofiad – rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un, o unrhyw oedran neu gefndir. Rhannwch y math o ddigwyddiadau hoffech chi, eich ffrindiau a’ch teulu ei weld yn digwydd yn yr adeilad. 

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob yn ail ddydd Iau, 5-6yh, yn cychwyn ar 24 Mawrth 2022. Gallech ddewis mynychu’r cyfarfod wyneb i wyneb neu ymuno ar Zoom. 

I gofrestru eich diddordeb neu i ddarganfod mwy, e-bostiwch Tom: tom@promo.cymru neu cysylltwch EVI:  01495 708022 

Mae’r gwaith yma yn cael ei ddatblygu gyda chyllid o grant Cronfa Adfywio Gymunedol y DU. I ddarganfod mwy, cliciwch yma. 

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy