EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Pethau Cyffrous ar y Gweill yn EVI

Comments Off on Pethau Cyffrous ar y Gweill yn EVI

Rydym yn falch iawn o gael cyhoeddi bod Institiwt Glynebwy (EVI) wedi derbyn grant gan Gronfa Adfywio Gymunedol y DU. Felly, bydd yr institiwt hynaf yng Nghymru, sydd wedi ei adfywio a’i adnewyddu gan ProMo-Cymru, yn gallu ailagor ar ôl y pandemig gyda datblygiadau newydd cyffrous.

Bydd y cyllid yma yn caniatáu i EVI ddatblygu cyfleoedd gyda phobl ifanc a chefnogi adferiad diwylliannol ac economaidd yng Nglynebwy a Blaenau Gwent. Mae nifer o gynlluniau a syniadau cyffrous ar y gweill yn y ganolfan y gwanwyn hwn.

·  Creu cyfleoedd a llwybrau i gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc gan ddefnyddio ein caffi a hyfforddiant sgiliau digidol

·  Hyrwyddo sgiliau byw’n iach a chymdeithasol gan ddefnyddio’r caffi a’r ardd

·  Gweithio gydag artistiaid lleol a grwpiau cymunedol, cynnal digwyddiadau diwylliannol ar gyfer y gymuned

·  Cynnal gweithgareddau a gweithdai amgylcheddol, cynyddu ymddygiad amgylcheddol positif y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad

Canolbwynt bywyd cymunedol

Er bod ein gwasanaethau tenantiaid gwych wedi parhau i fod yn agored ac yn dal i weithredu, mae’r ganolfan wedi bod ar gau i’r cyhoedd yn ystod y pandemig. Rydym yn falch iawn o gael ailagor y ganolfan ddiwylliannol gymunedol yma yng nghanol Glynebwy gyda lansiad y prosiect cyffrous yma. Wrth galon y prosiect adfywio mae arloesi amgylcheddol, cynaliadwyedd, a diwylliant cymunedol a lleol, gyda’r bwriad o greu Blaenau Gwent sydd yn le mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld.

Mae EVI wedi bod wrth galon bywyd cymunedol Glynebwy ers 173 o flynyddoedd, a bydd yn parhau i wneud hynny am sawl cenhedlaeth i ddod diolch i’r prosiect yma.

Darganfod mwy

Pa fath o bethau ydych chi’n awyddus i EVI gyflwyno yn eich cymuned? Os hoffech drafod y prosiect neu’r gwaith â ni, cysylltwch â sam@evi.cymru. Dilynwch neu hoffwch ar Twitter, Instagram neu Facebook i gael gwybod y diweddaraf am yr hyn sydd yn digwydd, ac i ymuno â ni ar ein siwrne gyffrous dros y gwanwyn.

English translation of this article is available here

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy