Rydym yn falch iawn o’n cydweithrediad gyda Chymunedau dros Waith a Mwy ac Addysg Oedolion Cymru i gynnig ein Rhaglen Hyfforddiant Lletygarwch yn rhad ac am ddim, wedi’i gynllunio’n arbennig i’ch cefnogi i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch.
Pa un ai hoffech chi ddiweddaru eich sgiliau craidd, neu eich bod yn edrych i gychwyn gyrfa lletygarwch, dyma’r rhaglen i chi.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal wyneb-yn-wyneb mewn amgylchedd cynnes ac anffurfiol EVI. Mae’r hyfforddiant achrededig hwn yn rhoi sylw i bob agwedd o weithio o fewn y sector lletygarwch, gan gynnwys:
-Diogelwch Bwyd
-Iechyd a Diogelwch
-Diogelwch Tân
-Cymorth Cyntaf
-Gwasanaeth Cwsmer
-Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
-Codi a Chario
Mae’r Rhaglen Hyfforddi Lletygarwch hefyd yn cynnwys Hyfforddiant Bar a Hyfforddiant Barista anffurfiol yn ychwanegol i’r cyfle cyffrous hwn. Ariannwyd yr hyfforddiant hwn Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Gymunedol y DU*, ac mae’n rhad ac am ddim i drigolion Blaenau Gwent.
Os oes angen mwy o fanylion, peidiwch ag oedi i gysylltu gyda sian@evi.cymru neu sam@evi.cymru neu ffoniwch Sian neu Sam ar 01495 708022.
*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi argyfer Cronfa Ffyniant Cyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewalfund-prospectus
Comments are closed