Cynhaliodd EVI sesiwn hyfforddi cyfryngau cymdeithasol ar-lein am ddim i fusnesau a sefydliadau trydydd sector Blaenau Gwent yn ddiweddar. Roedd y sesiwn llawn gwybodaeth yma, cyflwynir gan ProMo-Cymru, arbenigwyr y diwydiant, yn datblygu sgiliau cyfryngau cymdeithasol i helpu denu mwy o sylw i’w gwasanaeth.
Roedd Andrew Collins, arbenigwr cyfathrebu digidol ProMo-Cymru, yn ymdrin â sawl pwnc defnyddiol fel:
- – Fideo ffurf fer (TikTok, reels Instagram a YouTube shorts)
- – Tueddiadau cyfryngau cymdeithasol
- – Hysbysebion taladwy cyfryngau cymdeithasol
- – Algorithmau cyfryngau cymdeithasol
Llwyddodd y rhai mynychodd i ddysgu sgiliau cyfryngau cymdeithasol gwerthfawr i symud eu tudalennau ymlaen i’r lefel nesaf, gan hefyd fanteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau a derbyn cyngor penodol gan arbenigwr yn y maes.
Adborth
“Ymwybyddiaeth wych o’r pwnc, dymunol iawn ac yn ymateb yn dda i gwestiynau pobl”
*
“Hyfforddiant defnyddiol iawn, perthnasol iawn, hawdd i’w ddilyn. Sesiwn grêt!“
*
“Roedd yn llawn gwybodaeth, ac yn trafod pethau nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdanynt“
*
“Egni anhygoel, yn amlwg yn angerddol iawn am y pwnc, yn sicrhau bod pawb yn cael ei glywed“
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant sgiliau digidol (hysbysebion taledig, Canva, fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a mwy) i helpu hyrwyddo eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent, cysylltwch gyda’r EVI drwy e-bost sian@evi.cymru.
Mae ProMo-Cymru, gwarcheidwaid EVI, yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi wedi’u teilwro – dysgwch fwy yma.
Ariennir yr hyfforddiant yma gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU*.
*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.
Comments are closed