Cyngor arbenigol ar sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent!
Beth i’w ddisgwyl:
Arweiniad ar sut i wella cyrhaeddiad a hybu eich gwasanaeth ar gyfryngau cymdeithasol fel eich bod yn denu sylw ym Mlaenau Gwent a thu hwnt! Ymunwch yn y sesiwn hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol rhad ac am ddim yma, sydd yn 2.5 awr llawn gwybodaeth ddefnyddiol gydag arbenigwr yn y maes, Andrew Collins.
COFRESTRU
Yn y sesiwn yma byddech yn:
· Archwilio popeth sydd angen ei wybod am dueddiadau cyfryngau cymdeithasol yn 2022
· Dod i ddeall fideo ar ffurf fer (TikTok, Instagram reels a YouTube shorts)
· Derbyn cyngor a thriciau cyfryngau cymdeithasol hawdd ac am ddim fydd yn arbed amser ac arian i chi
· Dysgu am fuddiannau talu am hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a sut i ddefnyddio’r rhain ar gyfer eich sefydliad neu fusnes
· Trechu’r algorithmau wrth ddeall sut maent yn gweithio a’u defnyddio i’ch budd
· Dysgu sgiliau cyfryngau cymdeithasol gwerthfawr fydd yn helpu chi i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent
I bwy mae’r hyfforddiant yma?
Mae’r sesiwn ar-lein am ddim yma ar gyfer busnesau neu sefydliadau gwirfoddol sydd yn gweithio o fewn ardal awdurdod lleol Blaenau Gwent sydd yn awyddus i symud ymlaen gyda’u cyfryngau cymdeithasol a gwella eu tudalennau.
Ar ba ffurf mae’r hyfforddiant yma?
Mae’r sesiwn yn cael ei gynnig yn Saesneg ac yn cael ei gyflwyno dros Zoom.
Dyddiad a hyd:
Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 6ed Ebrill 2022 10yb – 12:30yp
COFRESTRU
Llefydd cyfyngedig felly cyntaf i’r felin.
Cysylltwch â andrew@promo.cymru ar gyfer unrhyw ymholiadau hyfforddiant neu os ydych chi’n gymwys.
——————-
Mae’r hyfforddiant yma yn cael ei gyflwyno gan ProMo-Cymru. Mae cwrs yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.*
Mae ProMo-Cymru yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant wedi’u teilwra ac opsiynau ymgynghoriaeth arbennig. Gwybodaeth bellach yma: https://www.promo.cymru/services/hyfforddiant-ac-ymgynghoriad/?lang=cy
*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewalfund-prospectus
Comments are closed