Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Victoria Williams mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.
Mae pawb yn bwriadu bod yn ecogyfeillgar a chael effaith positif ar ein byd, ond oeddech chi’n gwybod bod yfed eich paned arferol yn gallu achosi difrod?
Pam? Prydain yw’r drydedd wlad sydd yn yfed y mwyaf o de yn y byd (y tu ôl i Dwrci a’r Iwerddon), ond nid yw’r te yma yn cael ei dyfu gartref. Mae’r mwyafrif yn dod o’r Affrica (Kenya yn enwedig), Sri Lanka, India a Tsieina. Mae hyn yn llawer iawn o amser teithio i’n hoff ddiod boeth.
Yn ogystal, mae’r bagiau yn aml yn cynnwys plastig ac nid ydynt yn troi’n gompost yn iawn – felly mae’r miloedd rydym yn ei yfed bob dydd, fel arfer, yn mynd i dirlenwi. Hyn i gyd cyn hyd yn oed ystyried y trydan ychwanegol sydd ei angen i bweru miloedd o degellau am hanner amser pan fydd y bêl droed ymlaen.
Yn ôl Cyfrifydd Bwyd Newid Hinsawdd y BBC, mae yfed ychydig gwpanau’r dydd, bob dydd, am flwyddyn yn allyrru 30kg o garbon bob blwyddyn – cymaint â gyrru car petrol am 78 milltir. Y newyddion gorau i de ydy bod coffi, cwrw a gwin yn waeth nag hynny.
Paned eco-ymwybodol
Mae yna gwmnïoedd yn bodoli sydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Os ydych chi’n dymuno gwneud dewis mwy cynaliadwy pan ddaw at eich hoff baned, yna edrychwch ar y rhestr isod.
1. Cornish Tea Company
Mae prynu a defnyddio bagiau te yn rhywbeth sydd yn rhaid gwneud i chi gael yfed te. I helpu’r amgylchedd newidiwch i fagiau bioddiraddadwy. Mae “bagiau ymdoddiad” arbennig Cornish Tea yn cynnwys sawl blas ac wedi’u creu o fagiau 100% corn startsh bioddiraddadwy.
2. Tea Pigs
Brand cynaliadwy arall ydy Tea Pigs. Maent yn creu amrywiaeth eang o flasau ar gyfer unrhyw dymer a sefyllfa. Maent yn credu dylai te fod yn bur ac yn syml, ac maent yn gwireddu hyn wrth beidio ychwanegu unrhyw beth niweidiol. Mae’r pecynnu yn gwbl rydd o blastig a nhw yw’r brand cyntaf i dderbyn y Plastic Free Trust Mark.
3.Clipper Tea
Mae Clipper yn frand naturiol a chwbl organig. Maent yn derbyn arweiniad o egwyddorion organig ac wedi ymrwymo i fod yn rhydd o organebau wedi’i haddasu’n enetig (OAG) wrth ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau sydd ddim yn OAG. Mae’r brand ei hun yn canolbwyntio ar ddarganfod ffyrdd newydd i fod yn naturiol yn gyson.
4.Numi Teas
Mae Numi yn cyflawni ymhob agwedd pan ddaw at gynaladwyedd. Nid yn unig wrth ddefnyddio cynhwysion sydd yn dod yn syth o’r planhigion 100% ond wrth ddefnyddio pecynnu cynaliadwy hefyd. Maent hefyd yn cyfrannu rhoddion i osod yn erbyn eu hallyriadau carbon a chefnogi sefydliadau amgylcheddol dielw.
Felly dyna chi, y brandiau gorau i ganiatáu i chi fwynhau eich paned o de heb deimlo euogrwydd amgylcheddol. Mwynhewch!
Comments are closed