EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Creu Paradwys Trychfilod ar Gyfer Bioamrywiaeth

Comments Off on Creu Paradwys Trychfilod ar Gyfer Bioamrywiaeth

English article here

Ar gychwyn fis Mehefin bu grŵp o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Gweithdy Gardd Wyllt yn Institiwt Glynebwy. Bu’r criw yn creu gwestai trychfilod a bomiau hadau fydd yn help i’r trychfilod peillio a gwella’r ardal o amgylch yr adeilad.

Yn cymryd rhan yn y gweithdy arbennig yma wedi’i gynnal gan Eggseeds roedd pobl ifanc o Llamau, Hyfforddiant ACT a Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent. Mae Eggseeds yn sefydliad sydd yn dysgu addysg awyr agored am natur a bioamrywiaeth. Trefnwyd y gweithdy fel rhan o gyfres o fesurau cynaliadwy yn yr EVI, wedi’i wireddu o ganlyn Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, prosiect sy’n cael ei gefnogi gan yr WCVA.

Tai chwilod yn cael eu peintio - paradwys trychfilod
Peintio’r gwestai trychfilod mewn lliwiau llachar hyfryd

Llefydd ar osod yn y gwesty trychfilod

Cychwynnodd y gweithdy wrth adeiladu gwestai trychfilod, adeiladau pren bach gall fod yn gartref i bob math o bryfaid a rhai adar hyd yn oed. Mae’r adeiladau pren yma wedi cael eu gosod ar slab mawr o AstroTurf a’i osod o fewn yr ardd gymunedol o flaen yr EVI. Bydd hwn yn creu stryd fach uchel i’r trychfilod ffynnu ynddi.

Ond cyn i’r adeiladau fod yn barod i groesawu’r trychfilod roedd rhaid tacluso tipyn arnynt er mwyn tynnu sylw unrhyw un sydd yn cerdded heibio. Dechreuodd y bobl ifanc wrth beintio’r tai a gwestai trychfilod!

Tu mewn i'r tai chwilod
To bwrdd sialc, gyda llenwad gwellt a bambŵ

Denu’r trychfilod

“Bydd y tri adeilad mwyaf yn denu pryfaid sy’n hedfan. Efallai bydd gwenyn, pili-pala ac adain siderog (lacewing) yn hoff o nythu ynddynt,” eglurodd Sam o Eggseeds.

“Bûm yn stwffio’r tai llai llawn llwch lli gydag ychydig o fylchau bychan i gael i mewn. Mae hwn yn berffaith i chwilen dyrchu iddo. Ychwanegwyd tyllau crwn mwy i rai o’r tai llai hefyd, i greu gofod nythu perffaith i adar.”

Ar ôl peintio’r rhain, gosodwyd y toeau bwrdd sialc (perffaith i ysgrifennu negeseuon arnynt) gyda hoelion ac offer pŵer. Llenwyd y tai gyda llwch lli a thiwbiau bambŵ wedi’u torri. Mae stwffin llwch lli yn creu awyrgylch hydrin i’r trychfilod dyrchu a nythu ynddo. Meddyliwch am yr holl arwynebedd ychwanegol sydd i fedru llithro eu cyrff bach i mewn iddo ac ymlusgo ar ei hyd. Gobeithir bydd y tiwbia bambŵ yn dod yn le i’r gwenyn ddodwy wyau.

bomiau hadau gorffenedig
Mae bomiau hadau yn ffordd wych o blannu blodau gwyllt

Bomiau’n blodeuo

Gyda’r adeiladau trychfilod yn edrych yn wych roedd hi’n hen bryd symud ymlaen i’r gweithgaredd nesaf – creu’r bomiau hadau. Mae bomio hadau yn hen dechneg ffermio organig Japaneaidd, ffordd o hadu sydd yn well i’r tir ac yn amddiffyn yr hadau rhag cael eu bwyta gan adar a bywyd gwyllt fel arall. Dyma ffordd wych i gynyddu bioamrywiaeth yn eich ardal leol.

Defnyddiwyd hadau blodau gwyllt gwydn. Gan fod yr hadau yn cael eu cau mewn pridd wedi’i bacio’n galed, nid yw’n hawdd i adar eu bwyta ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddechrau tyfu.

dwylo mwdlyd yn rholio bomiau hadau
Dwylo mwdlyd wrth greu bomiau hadau

Sut i greu Bomiau Hadau eich hun:

Cam 1: Defnyddiwch ychydig o glai gwlyb a’i gymysgu gyda phridd. Rholiwch hwn yn belen a rhoi tolc ynddo gyda’ch bys

Cam 2: Dewiswch dau neu dri hedyn a’u gollwng i mewn i’r tolc. Os ydych chi’n rhoi mwy yna bydd yr hadau yn cystadlu am yr adnoddau yn y ddaear a ddim yn tyfu i’w llawn botensial

Cam 3: Tylinwch yr hadau i mewn i ganol y belen

Cam 4: Taflwch y bom hadau ar unrhyw dir ffrwythlon neu ddiffaith a gobeithio bydd y planhigion yn tyfu

tai chwilod yn eu lle
Y gwestai a thai trychfilod yn edrych yn wych y tu allan i’r EVI

Byddwch yn arwr bywyd gwyllt

Mae’n eithaf hawdd cyfrannu at fioamrywiaeth eich ardal leol. Beth am gymryd rhai o’r syniadau uchod a chreu paradwys i adar a thrychfilod yn eich gardd chi? Roedd y cyfranogwyr yn hapus iawn gyda’r canlyniadau ac i ffwrdd â nhw adref wedi dysgu sgiliau gwerthfawr diolch i’r tîm Eggseeds am eu profiad a’u gwaith caled.


Ariannwyd y gweithdy hwn drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Derbyniodd yr EVI arian i wella effeithiolrwydd ynni’r adeilad, cynyddu bioamrywiaeth yn lleol a chynnwys y gymuned drwy wirfoddoli.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o erthyglau ar y sawl ffordd rydym yn hyrwyddo cynaladwyedd yn Institiwt Glynebwy. Darllenwch y gweddill yma:

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy