Mae grŵp talentog o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent wedi rhyddhau sengl eu hunain, ‘Summer of Love’ gan KRU (gyda Kidz R Us), ac mae dros 5.5 mil wedi gwylio ar YouTube a dros 3000 wedi gwrando ar Spotify yn barod!
Bu ProMo-Cymru yn gweithio mewn cydweithrediad â’r cynhyrchydd cerddoriaeth Nick Brine (Oasis, Stone Roses) yn eu Canolfan Cymunedol a Diwylliannol, Institiwt Glyn Ebwy (EVI), i alluogi grŵp o bobl ifanc ysbrydoledig o Kidz R Us ym Mlaenau Gwent i ysgrifennu, creu, recordio a hyrwyddo sengl eu hunain – wedi ei ariannu drwy gynllun Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru trwy CWVYS.
Ymunodd ProMo-Cymru â KRU a Nick Brine yn y stiwdio recordio o’r radd flaenaf yn EVI i gynnal sesiwn recordio o’r sengl wreiddiol, ‘Summer of Love’. Dyma sut yr aeth pethau!
“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel o’r cychwyn i’r diwedd. Cawsom cymaint o hwyl a dysgu llawer iawn!”
– Aelod KRU
Cân sy’n codi’r galon i’ch cario chi trwy’r misoedd oer o’n blaen. Dangoswch eich cefnogaeth wrth wylio’r fideo ar YouTube and gwrando ar Spotify.




ProMo Cymru, charity and social enterprise, operates and is the custodian of the Ebbw Vale Institute. We are proud to have saved EVI for future community use.
Comments are closed