EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Teuluoedd yn Dysgu am Natur yn Institiwt Glynebwy

Comments Off on Teuluoedd yn Dysgu am Natur yn Institiwt Glynebwy

English

Ymwelodd dros 80 o blant a theuluoedd lleol ein hadeilad hanesyddol Institiwt Glynebwy (EVI) yn ystod ein Hwythnos Agored ddiweddar i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai addysgiadol crefftau awyr agored a bywyd gwyllt.

Cafodd teuluoedd lleol y cyfle i dreulio amser arbennig â’i gilydd, dysgu yn yr awyr agored a derbyn pecynnau bwyd iach am ddim i blant o’r Caffi yn EVI dros y gwyliau haf.

Bod yn Greadigol

Roedd EggSeeds (elusen addysgiadol) yn cyflwyno gweithdai, yn rhannu eu hangerdd a ffyrdd arloesol i ysbrydoli a chysylltu gyda phlant a theuluoedd gyda chrefftau naturiol. Roedd gweithgareddau yn cynnwys pyrograffeg (y gelf o addurno pren wrth ei losgi), crefft broc môr, peintio cerrig bach a chreu a phlannu bomiau hadau i addurno gardd gymunedol EVI ac i fynd adref gyda nhw. Roedd y plant yn gyffrous iawn i gael dychwelyd i ardd EVI yn y dyfodol i weld tyfiant y planhigion a’r blodau sydd yn gyfeillgar i chwilod, ac aethant ati i guddio cerrig wedi’u peintio ar themâu chwilod o gwmpas yr ardd.

Adeiladu Cartrefi Chwilod

Roedd Ymddiriedolaeth Natur Gwent hefyd yn rhan o’r wythnos, yn helpu pawb i adeiladu cartref chwilod eu hunain ac i adnabod gwahanol wyfynod mewn bylchau gwyfod (ffordd gyfeillgar a diogel i gasglu gwyfod). Eglurwyd pwysigrwydd y gwyfod i beillio gyda’r nos a’r ffordd maent yn defnyddio’u trwyn hir i yfed neithdar o flodau. Rhannwyd gwybodaeth ddiddorol gyda’r grŵp am bryfaid peillio eraill fel gwenyn, pili-pala a chwilod. Yn gweithio yn yr ardd braf, gyda blodau, planhigion a chwilod o’u cwmpas, roedd y teuluoedd yn gweithio ar y cartrefi chwilod ac yn dysgu am eu gwaith pwysig fel rhoi lle diogel i chwilod fyw, gadael wyau, magu a chadw’n ddiogel o reibwyr.

Dywedodd un rhiant, “Mae gweithgareddau plant yn aml yn defnyddio llawer o blastig a gwastraff dibwynt. Mae’n wych dod yma a defnyddio deunyddiau naturiol, cynaliadwy ar gyfer crefftau hwyl, addysgiadol ac sydd â phwrpas. Gallant fynd â nhw adref, eu rhoi ar ddefnydd, a chael eu hatgoffa o’r hyn dysgwyd yn ogystal â dysgu mwy pan fydd y chwilod yn dod i aros. Mae’n wych iddynt fod yn yr amgylchedd maent yn dysgu amdano.”

Dysgu Ymarferol

Yn olaf, daeth Gwarchodfa Tylluanod Glynebwy draw gyda’r tylluanod a’r adar ysglyfaethus sydd wedi’u hachub, gan ddefnyddio’r ganolfan a’r ardd i roi cyfle i’r teuluoedd gysylltu gyda nhw a darganfod mwy am eu cynefin naturiol, diet a’u gwarchodaeth.

Dywedodd Sian Tucker, Rheolwr Canolfan EVI, “Mae’n hudol gweld yr holl deuluoedd yma yn institiwt hynaf Cymru, yn dysgu am bwysigrwydd bioamrywiaeth, natur a bywyd gwyllt – yn union fel yr oedd pobl 170 mlynedd yn ôl pan roedd yr adeilad yn Institiwt Gwyddonol. Mae canolbwyntio ar gynaladwyedd, yr amgylchedd ac addysg yn rhan allweddol o’n hethos cymunedol yma yn EVI.”

Ariannwyd gweithgareddau Wythnos Agored EVI gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.


*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy