Mae Institiwt Glynebwy yn rhoi cyfle i un cerddor lwcus o Flaenau Gwent i ennill lle bwrsari 12 mis ar y platfform newydd Cynhyrchu Cerddoriaeth, Ysgrifennu Caneuon a Mentora Busnes – ‘Session Recall’, wedi’i arwain gan y cynhyrchydd a pherchennog label Nick Brine (Oasis, Stone Roses, Bruce Springsteen, Arctic Monkeys).
Bydd yr enillydd yn derbyn aelodaeth ‘Session Recall’ am ddim ac yn cael ei gofrestru ar y Pecyn Arian am 12 mis. Byddech yn derbyn mentora un i un gyda phobl broffesiynol o’r diwydiant, mentora busnes, cyngor ysgrifennu caneuon, cyrsiau ar-lein, mynediad i weithdai cynhyrchu a gwersyll ysgrifennu caneuon, codau disgownt offer a chymorth gyda’ch cerddoriaeth wrth i chi symud ymlaen.
Yr unig beth sy’n rhaid gwneud yw e-bostio MP3 gyda’ch dewis o gân, gyda pharagraff syml am eich hun a pam y dylech chi gael lle ar y rhaglen, beth fydd ennill yn ei olygu i chi, a byddech yn rhan o’r gystadleuaeth wedyn.
Bydd panel beirniadu sydd yn cynnwys y cynhyrchydd a pherchennog label Nick Brine, Jon Constantine (darlithydd prifysgol a mentor busnes, cynhyrchydd/peiriannydd), Max Rafferty (The Kooks) a chynrychiolydd o Institiwt Glynebwy yn dewis yr enillydd.
Gyrrwch eich cais nawr am gyfle i ennill y wobr anhygoel yma.
Ceisiadau yn cau dydd Gwener 9fed Medi. E-bostiwch: competition@sessionrecall.com
Mae’r cyfle rhaglen mentora yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU*, wedi’i ddiogelu gan ProMo-Cymru ar gyfer EVI.
Dyddiad cau: 09/09/2022
*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.
Comments are closed