EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Wythnos Agored 1af – 5ed Awst

Comments Off on Wythnos Agored 1af – 5ed Awst

Read English here

Ymunwch â ni am wythnos llawn gweithgareddau a bwyd am ddim i ddathlu drysau’r EVI yn agor unwaith eto!

Gweithgareddau crefft a bywyd gwyllt i’r teulu, arddangosfa ddiwylliannol, dosbarthiadau lles, gweithdai cefnogi busnes / digidol, te prynhawn, ysgrifennu creadigol a chanu, ac agoriad ein caffi newydd ‘Café at EVI’ – mae gennym wythnos lawn o weithgareddau hwyl ac am ddim wedi’u cynllunio ar gyfer pob oedran ym Mlaenau Gwent!

I ddathlu ein Hwythnos Agored a’r ‘Café at EVI’ newydd, bydd pob plentyn yn derbyn bocs bwyd iach am ddim i fwyta mewn neu i fynd allan bob dydd yn ystod yr wythnos. Cadwch olwg ar y dudalen hon am ddiweddariadau dyddiol, a chofiwch gysylltu gydag unrhyw ymholiadau wrth e-bostio megan@promo.cymru neu ffonio 01495 708022 neu galwch draw.

Bydd angen archebu lle (am ddim) i rai o’r digwyddiadau, tra bod eraill yn agored i bawb galw draw. Edrychwch isod am y rhaglen lawn o weithgareddau – cliciwch ar y dolenni i ddarganfod mwy. Dewch draw ac ymuno gyda ni!

Mae’r Wythnos Agored yn cael ei ariannu gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU*

Rhaglen y Digwyddiadau:

Arddangosfa ‘Let Paul Robeson Sing’

Trwy gydol yr Wythnos Agored, bydd yr EVI yn cynnal arddangosfa ysbrydoledig am fywyd yr actor, canwr a gweithredwr hawliau sifil Paul Robeson. Mae’r arddangosfa yn gronicl o ymdrechion Robeson yn erbyn rhagfarn ac anoddefgarwch, ei gysylltiad gyda glowyr De Cymru, a’i waith yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb hiliol. Un o’i ymddangosiadau cyntaf oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy yn fis Awst 1958. Nawr, 64 mlynedd yn ddiweddarach, mae stori Robeson yn dychwelyd i Lynebwy. Mae croeso i bob oedran alw draw, am ddim, yn ystod ein horiau agored i ddysgu am fywyd diddorol Robeson a’r effaith pwysig y cafodd yng Nghymru. A thra bod chi yma, helpwch eich hunain i baned a chacen am ddim!

“There is no place in the world I like more than Wales.” – Paul Robeson  


Dydd Llun 1af

Cefnogaeth Sgiliau Digidol a Sesiwn Cwestiwn ac Ateb ‘Galw Draw’

11yb – 1yp

Dysgwch sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i gael eich gweld a’ch clywed ym Mlaenau Gwent, gydag arbenigwr cyfathrebiadau digidol o ProMo-Cymru, Andrew Collins. Galwch draw a derbyn cyngor a hyfforddiant un i un, wedi’i deilwro yn arbennig i chi! Dysgwch sut i hyrwyddo eich gwaith a’ch digwyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol, neu galwch draw i wella eich sgiliau digidol yn gyffredinol mewn awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol. Gallem eich helpu i ddeall sut i greu tudalen, creu cynnwys diddorol, fideo ffurf fer, talu am hysbysebu, gwefannau syml, algorithmau, tueddiadau a mwy!

E-bostiwch megan@promo.cymru i gofrestru’ch diddordeb a rhowch wybod beth allem ei wneud i chi. Bydd yna luniaeth am ddim hefyd. Bydd Busnes Mewn Ffocws yno hefyd i’ch cefnogi gydag unrhyw gwestiynau busnes sydd gennych chi.

Canu i Gychwynwyr

1:30-2:30yp (Ar gyfer pob oedran) RHAID CADW LLE

Mae’r dosbarth canu yma yn cyflwyno technegau i gefnogi ymarfer canu gorau, fel graddfa, cylymau tafod (tounge twister), anadlu ac ynganu. Bydd dosbarth Jonathon yn codi ac yn annog hyder y rhai sydd yn cymryd rhan, yn gweithio ar daflu’r llais, rheoli anadlu, geirio ac ynganu. Bydd y sesiynau yma yn helpu i ddatblygu ‘pecyn cymorth’ fydd yn gallu cael ei ddefnyddio gyda chanu grŵp.

Yn cael ei hwyluso gan Inside Out Cymru.

Te Prynhawn a Ffilm

2.30pm


Dydd Mawrth 2il

Crefftau Broc Môr, Pyrograffeg, Celf Cerrig Bychan a Chreu Bomiau Hadau

11yb – 4yp RHAID CADW LLE

Diwrnod llawn crefftau naturiol, hwyl, ac am ddim i’r teulu oll yn ardd yr EVI, gyda EggSeeds, “Yn Dod ag Addysg yn Fyw”. Bydd dau sesiwn gwahanol, un bore ac un prynhawn. Dewch draw am y dydd!

Cinio am ddim i blant.
Mae’n rhaid i oedolyn fod yn bresennol.

Llefydd yn brin – hawliwch eich lle yma.

Sesiwn 1: 11yb – 1yp
Crefftau Broc Môr (addas ar gyfer pob oedran) – Dewiswch eich bisgedi broc môr a chreu darnau addurniadol cŵl i fynd adref gyda chi.
Pyrograffeg (addas ar gyfer oedran 4+) – Rhowch dro ar y gelf o losgi pren – syml, hwyl ac ymlaciol! O batrymau, geiriau neu luniau, gallwch greu darnau personol eich hun i fynd adref gyda chi.

Sesiwn 2: 2yp – 4yp
Crefft a Pheintio Cerrig Bychan (addas ar gyfer pob oedran) – Helpwch i greu cerrig ysbrydoledig neu thema natur i’w darganfod yn ein gardd, neu creu celf cerrig bychan i fynd adref gyda chi. Bomiau Hadau (addas ar gyfer pob oedran) – Helpwch i gyflwyno lliw a bywyd gwyllt i’n gardd, yn rhoi lle i fywyd gwyllt fwyta, cuddio ac edrych yn anhygoel i bawb ddod yn ôl i’w weld. Ewch â rhai adref i fwynhau!

Lansiad Swyddogol gyda Chôr Meibion Glynebwy

12yp

Ymunwch â ni ar gyfer ein lansiad swyddogol! Bydd EVI yn cael ei ailagor yn swyddogol gan AS Blaenau Gwent, Alun Davies. Bwyd a lluniaeth am ddim a Chôr Meibion Glynebwy yn canu.

Sesiwn Entrepreneuriaid Ifanc

1.30yp – 3.30yp

Ymunwch â Sesiwn Entrepreneuriaid Ifanc Syniadau Mawr Cymru, ble fydd pobl ifanc yn gadael gyda syniadau am sut i droi hobi, diddordebau ac angerdd yn weithred ar yr ochr a busnes. Bydd cyngor iechyd meddwl a lles yn cael ei gynnwys hefyd.

Bydd Busnes Mewn Ffocws yno i’ch cefnogi gydag unrhyw gwestiynau busnes.


Dydd Mercher 3ydd

Dosbarthiadau Lles i 16+

Sesiynau blasu am ddim ar gyfer amrywiaeth o ddosbarthiadau lles i rai 16+.

11yb -12yp – Meddylgarwch – Andrew
12:15yp – 1yp – Ymlacio gydag Yoga – Clare
2pm – 3pm – Tai Chi / Qigong – Keith

Am wybodaeth bellach ac i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch megan@promo.cymru, ffoniwch ar 01495 708022 neu galwch draw!


Dydd Iau 4ydd

Peintio Sidan i Deuluoedd

10yb – 12yp / 1yp – 3yp RHAID CADW LLE (addas i oedran 5+)

Galwch draw i sesiwn peintio sidan hwyl, creadigol a bywiog gyda’r artist talentog Nina Morgan. Mae’r sesiwn ymlaciol yma yn berffaith ar gyfer teuluoedd i dreulio amser â’i gilydd. Ymunwch am y sesiwn bore (10yb – 12yp) neu’r sesiwn prynhawn (1yp-3yp).

Bydd pob plentyn yn derbyn bocs bwyd iach am ddim.

Llefydd yn brin – hawliwch eich lle yma.


Dydd Gwener 5ed

Peillwyr Perffaith: Creu Cartref Pryfed

10yb – 12.30yp RHAID CADW LLE (addas ar gyfer pob oedran)

Gweithgareddau bywyd gwyllt hwyl ac addysgiadol gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent. Ymunwch â Rob Magee i ddysgu am bryfaid peillio fel gwenyn, pili-pala, gwyfynod a chwilod. Byddant yn dod i adnabod gwyfynod (moths) am 10yb, a dilynir hyn gyda sesiwn hwyl yn creu cartrefi i bryfed. Bydd cyfle hefyd i ddysgu sut i adnabod gwahanol bili-pala a gwenyn a sut gallech chi helpu yn eich gardd. Ymunwch â ni am y gweithdy addysgiadol a chyffroes yma i’r teulu oll!

Darparir cinio am ddim i’r plant. Mae’n rhaid i oedolyn fod yn bresennol.

Mae llefydd yn brin ar gyfer y sesiwn creu cartref pryfed – hawliwch eich lle yma.

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol

11yb – 12yp (addas ar gyfer 14+) RHAID CADW LEE

Bydd yr ymarferydd celf Jonathan Rowland-Beer yn cynnig awgrymiadau ysgrifennu creadigol diddorol ac ysbrydoledig wrth annog y rhai sydd yn cymryd rhan i ddrafftio stori fer, barddoniaeth, atgofion neu chwarae ar eiriau eu hunain. Bydd y grŵp yn rhannu’r hyn maent wedi ysgrifennu cyn rhoi cyngor ac ysbrydoli ei gilydd. Gall Jonathan hefyd gynnwys barddoniaeth, dialog, a’r cysyniad o ‘dangos paid dweud’. Mae pawb yn cael cyfle i wrando yn ogystal ag amser distaw i sbarduno’r creadigrwydd.

Hwylusir gan Inside Out Cymru.

Ymweliad y Warchodfa Tylluanod

1yp – 2yp

Edrychwn ymlaen at groesawu Gwarchodfa Tylluanod Glynebwy i EVI. Cysylltwch gyda’r tylluanod ac adar ysglyfaethus o’r Warchodfa Tylluanod wrth i chi ddysgu amdanynt. Nid oes angen cadw lle, dewch draw! Croeso i bob oedran.


*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi argyfer Cronfa Ffyniant Cyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewalfund-prospectus

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy