EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Adborth Gwych o’n Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol

Comments Off on Adborth Gwych o’n Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol

English article here

Cynhaliodd EVI sesiwn hyfforddi cyfryngau cymdeithasol ar-lein am ddim i fusnesau a sefydliadau trydydd sector Blaenau Gwent yn ddiweddar. Roedd y sesiwn llawn gwybodaeth yma, cyflwynir gan ProMo-Cymru, arbenigwyr y diwydiant, yn datblygu sgiliau cyfryngau cymdeithasol i helpu denu mwy o sylw i’w gwasanaeth.

Roedd Andrew Collins, arbenigwr cyfathrebu digidol ProMo-Cymru, yn ymdrin â sawl pwnc defnyddiol fel:

  • – Fideo ffurf fer (TikTok, reels Instagram a YouTube shorts)
  • – Tueddiadau cyfryngau cymdeithasol
  • – Hysbysebion taladwy cyfryngau cymdeithasol
  • – Algorithmau cyfryngau cymdeithasol

Llwyddodd y rhai mynychodd i ddysgu sgiliau cyfryngau cymdeithasol gwerthfawr i symud eu tudalennau ymlaen i’r lefel nesaf, gan hefyd fanteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau a derbyn cyngor penodol gan arbenigwr yn y maes.

Adborth


Ymwybyddiaeth wych o’r pwnc, dymunol iawn ac yn ymateb yn dda i gwestiynau pobl”

*

Hyfforddiant defnyddiol iawn, perthnasol iawn, hawdd i’w ddilyn. Sesiwn grêt!

*

Roedd yn llawn gwybodaeth, ac yn trafod pethau nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdanynt

*

Egni anhygoel, yn amlwg yn angerddol iawn am y pwnc, yn sicrhau bod pawb yn cael ei glywed


Gwybodaeth bellach

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant sgiliau digidol (hysbysebion taledig, Canva, fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a mwy) i helpu hyrwyddo eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent, cysylltwch gyda’r EVI drwy e-bost sian@evi.cymru.

Mae ProMo-Cymru, gwarcheidwaid EVI, yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi wedi’u teilwro – dysgwch fwy yma.

Ariennir yr hyfforddiant yma gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU*.


*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy