EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

HYFFORDDIANT CYFRYNGAU CYMDEITHASOL AM DDIM: Dysgwch sut i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent

Comments Off on HYFFORDDIANT CYFRYNGAU CYMDEITHASOL AM DDIM: Dysgwch sut i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent

Cyngor arbenigol ar sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent!

Beth i’w ddisgwyl:

Arweiniad ar sut i wella cyrhaeddiad a hybu eich gwasanaeth ar gyfryngau cymdeithasol fel eich bod yn denu sylw ym Mlaenau Gwent a thu hwnt! Ymunwch yn y sesiwn hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol rhad ac am ddim yma, sydd yn 2.5 awr llawn gwybodaeth ddefnyddiol gydag arbenigwr yn y maes, Andrew Collins.

COFRESTRU

Yn y sesiwn yma byddech yn:

·  Archwilio popeth sydd angen ei wybod am dueddiadau cyfryngau cymdeithasol yn 2022

·  Dod i ddeall fideo ar ffurf fer (TikTok, Instagram reels a YouTube shorts)

·  Derbyn cyngor a thriciau cyfryngau cymdeithasol hawdd ac am ddim fydd yn arbed amser ac arian i chi

·  Dysgu am fuddiannau talu am hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a sut i ddefnyddio’r rhain ar gyfer eich sefydliad neu fusnes

·  Trechu’r algorithmau wrth ddeall sut maent yn gweithio a’u defnyddio i’ch budd

·  Dysgu sgiliau cyfryngau cymdeithasol gwerthfawr fydd yn helpu chi i hybu eich gwasanaeth ym Mlaenau Gwent

I bwy mae’r hyfforddiant yma?

Mae’r sesiwn ar-lein am ddim yma ar gyfer busnesau neu sefydliadau gwirfoddol sydd yn gweithio o fewn ardal awdurdod lleol Blaenau Gwent sydd yn awyddus i symud ymlaen gyda’u cyfryngau cymdeithasol a gwella eu tudalennau.

Ar ba ffurf mae’r hyfforddiant yma?

Mae’r sesiwn yn cael ei gynnig yn Saesneg ac yn cael ei gyflwyno dros Zoom.

Dyddiad a hyd:

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 6ed Ebrill 2022 10yb – 12:30yp

COFRESTRU

Llefydd cyfyngedig felly cyntaf i’r felin.

Cysylltwch â andrew@promo.cymru ar gyfer unrhyw ymholiadau hyfforddiant neu os ydych chi’n gymwys.

——————-

Mae’r hyfforddiant yma yn cael ei gyflwyno gan ProMo-Cymru. Mae cwrs yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.*

Mae ProMo-Cymru yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant wedi’u teilwra ac opsiynau ymgynghoriaeth arbennig. Gwybodaeth bellach yma: https://www.promo.cymru/services/hyfforddiant-ac-ymgynghoriad/?lang=cy 

*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewalfund-prospectus 

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales
Levelling Up

Privacy Policy | Web Accessibility Policy