EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

Comments Off on Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

English article here

Gwahoddwyd teuluoedd Glynebwy i ddigwyddiad Dathlu Nadoligaidd yn yr EVI yn ddiweddar. Roeddem yn nodi diwedd prosiect cynaladwyedd blwyddyn o hyd, yn gwella effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad hanesyddol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.

Yn fis Rhagfyr 2019 derbyniodd yr EVI £32.523 o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei reoli gan CGGC. Dros y flwyddyn rydym wedi gwella’r gwresogi a’r goleuadau yn yr EVI, wedi cynnal gweithdy Llygredd Plastig gyda phobl ifanc, creu paradwys trychfilod yn yr ardd o flaen yr adeilad yn ystod gweithdy garddio bywyd gwyllt, wedi hyfforddi gwirfoddolwyr mewn ysgrifennu blogiau a chreu fideos gan greu banc o erthyglau ar ein gwefan, ac yn olaf, dathliad Nadolig mawr gyda thwist cynaliadwy.

Gwahoddiad i ddathlu

Ymestynnwyd gwahoddiad i bobl y gymuned i ddod i ymuno gyda ni ar ddiwedd mis Tachwedd i ddathlu Nadolig cynaliadwy gyda bwyd a disgo pŵer pedal i’r plant, gwin poeth a mins pei i’r rhieni, a gweithdai yn creu nwyddau Nadolig o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu.

Roedd 100 o lefydd ar gael, a llenwyd y rhain yn sydyn iawn. Darparwyd adloniant gan U3A (University of the Third Age) fu’n canu ac yn cynnal gweithgareddau canu i’r plant. Roedd y bwyd yn llwyddiant mawr, a phob briwsyn wedi’i fwyta, dim gwastraff o gwbl!

Pweru parti

Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r disgo pŵer pedal, a’r dyn eira, gyda’r plant yn cadw’r gerddoriaeth i fynd, y dyn eira llawn aer a goleuadau’r goeden Nadolig i fflachio drwy’r nos. Pŵer y bobl!

Roedd y gweithdai yn boblogaidd iawn, gyda phawb yn cymryd rhan. Roedd pobl wrth eu boddau yn cael creu’r coed Nadolig a’r bôbls allan o froc môr a hen baledi, dysgu ychydig o pyrograffeg a chael mynd â’r rhain gartref gyda nhw.

Daeth dau o’r gwirfoddolwyr fu’n rhan o’n hyfforddiant ysgrifennu blog draw i helpu. Roedd Jamie Lee a Victoria yn gymorth mawr gyda’r gweithdai ac roeddem wrth ein boddau cael clywed sut roedd erthygl Jamie Lee, Plannu Coed i Achub y Byd, wedi’u hysbrydoli i blannu coed mewn coedwig gwarchodfa.

Addewid i fod yn wyrddach

Daeth adran ailgylchu a gwastraff Cyngor Blaenau Gwent draw i roi gwybodaeth a chyngor am gasgliadau ailgylchu wythnosol.

Daeth dysgwyr Llamau (fu’n cymryd rhan yn rhai o’n gweithdai) draw hefyd gydag arddangosfa ryngweithiol. Roeddent yn gofyn i bobl i wneud addewidion ar gyfer Nadolig cynaliadwy ac i helpu’r amgylchedd.

Cafodd y dysgwyr amser da iawn yn gweithio â’i gilydd i greu’r byrddau arddangos, a dysgodd pawb rywbeth newydd am gynaladwyedd, a gobeithio bydd y negeseuon yma yn cael eu rhannu.” meddai tiwtor Learning 4 Life Llamau.

Cafwyd addewidion gwych ar y goeden addewidion. Dyma ychydig ohonynt:

  • – Defnyddio bagiau cotwm i siopa
  • – Addo ceisio defnyddio’r swm lleiaf o blastig bosib
  • – Lapio anrhegion Nadolig mewn papur newydd!
  • – Ailgylchu cymaint ag sy’n bosib
  • – Clirio plastig oddi ar y traeth

Roedd Llamau yn cymryd archebion am glecars ‘Dolig di-blastig ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol am ffyrdd cyfeillgar i’r amgylchedd i lapio anrhegion.

Nid dyma’r diwedd

Roedd Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau’r EVI, wrth ei bodd gyda llwyddiant y digwyddiad ac yn meddwl mai dyma oedd y ffordd berffaith i gloi’r prosiect blwyddyn.

“Rydym wedi cyrraedd pen taith y prosiect hwn, ac wedi cyflawni cymaint yma yn yr EVI,” meddai.

“Rydym wedi helpu codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a materion amgylcheddol ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn integrol i hyn. Maent wedi helpu gyda’r ymgyrch cyfathrebu. Ar ôl derbyn hyfforddiant mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i helpu prosiectau amgylcheddol eraill. Roedd y digwyddiad Nadolig yn ffordd berffaith i derfyn pethau, wrth gynnwys y gymuned gyfan yn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yma.”

Ac nid dyma ddiwedd y daith i’r gwaith cynaladwyedd yn yr EVI meddai Sam.

“Dim ond megis cychwyn mae’r gwaith i greu EVI mwy cynaliadwy a gwyrddach. Rydym wedi dysgu llawer o wybodaeth a  sgiliau newydd ar hyd y daith ac yn awyddus i barhau’r gwaith yma”.

Comments are closed

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy