Sut beth yw byw gyda gorffennol bydda’n well gan y mwyafrif ei anghofio? Sut ydym ni’n breuddwydio, yn gwrthsefyll, ac yn creu mewn llefydd diwydiannol? A yw’n bosib ymestyn allan i’r gorffennol, i ddeunyddiau archifol, ac i genedlaethau eraill, a rheoli’r naratif ein hunain?
Bydd yr ŵyl undydd yma yn cyfuno artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, archifwyr a phobl yn ffoi o wrthdaro, er mwyn edrych ar sut mae hanes a phrofiadau ardaloedd diwydiannol yn Nwyrain Wcráin a De Cymru yn plethu.
Mae’r gweithdy yma yn bosib drwy gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Celf a Dynoliaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol St Andrews, EVI ac Archifau Gwent.
Delwedd: Oleksandr Kuchynskyi
Rhaglen y Digwyddiad
3:00 Croeso a Chyflwyniad Prif Neuadd
3:10 Gweithdy/cyflwyniad Prif Neuadd Beth ddigwyddodd i Gryff? Y diwydiant dychmygol yng Nglynebwy a Azovstal. Canolfan Hanes Trefol yn Lbib, Wcráin, Archifau Gweithfeydd Glyn Ebwy ac Archifau Gwent
4:00 Egwyl Caffi
4:10 Sgrinio Ffilm Prif Neuadd ‘Bywyd y Tu Hwnt i’r CV’ gan Freefilmers, Mariupol (dadleoli i Zaporizhzhia)
4:30 – Gweithdy ymarferol Caffi Cysylltu â’r archif ac ail-ffotograffiaeth cymunedol
5:30 Egwyl Caffi
6:00 Sgrinio Ffilm Prif Neuadd Dangosiad cyntaf yn y DU o ddogfen ‘EuroDonbas’ Yn cael ei gyflwyno a’i drafod gan y cynhyrchydd Olena Kirichek a’r cyfarwyddwr Kornyi Gricyuk
8:00 DIWEDD
Ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd Glynebwy a Mariupol yn ddau o’r ardaloedd cynhyrchu dur mwyaf yn Ewrop. Bellach mae’r ddau wedi diflannu, o ganlyniad dad-ddiwydiannu gorfodol, yn achos Glynebwy, a rhyfel dileu imperialaeth newydd Rwsia, yn achos Mariupol.
Yn y gweithdy yma byddem yn archwilio’r ffyrdd mae etifeddiaeth ddiwydiannol yr ardaloedd yma, a rhanbarthau diwydiannol eraill yn y DU a’r Wcráin, wedi’i phlethu a sut maent yn siarad â’i gilydd trwy’r archif. Byddem yn tynnu dogfennaeth archifol o’r gwaith dur at ei gilydd, gan gynnwys cofnodion o’r diwedd a phrosiectau iwtopaidd ar gyfer y dyfodol ôl-ddiwydiannol (e.e. Gŵyl Gerddi Glynebwy), gyda chelf gyfoes o Gymru a’r Wcráin sydd yn ymateb i’r cyflwr ôl-ddiwydiannol mewn sawl ffordd, o alar i hiwmor a gwrthwynebiad.
Bydd y gweithdy yn gorffen gyda dangosiad cyntaf yn y DU o EURODONBAS, ffilm ddogfen yn archwilio’r cysylltiadau hanesyddol rhwng cymunedau diwydiannol Ewrop a Dwyrain Wcráin, a’r cymunedau lleol yn y Wcráin yn archwilio’r cysylltiadau yma cyn ymosodiad llawn Rwsia ym mis Chwefror 2022. Mae’r ffilm hefyd yn cyfeirio hanes mudo llafur Cymru i Hughesovka (Donetsk heddiw) ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd cyfarwyddwr y ffilm Kornyi Gricyuk a’r cynhyrchydd Olena Kirichek yn ymuno â ni am drafodaeth a sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y ffilm.
Ymunwch â ni am ran, neu’r holl ddigwyddiad cyffrous yma!
Tuesdays and Fridays | 5:30- 7:30pm and 10:30- 12:30pm.
Free (Includes Refreshments)
Wednesday 17th December | 11am- 1pm
Free! (Buffet Included)
Wednesday 10th December | 11am- 1pm
£1 (includes refreshments)
Monday 8th December | 7pm- 9:30pm
£10 (£8 Concession)
Thursday 4th December | 10am- 3pm
£5 per workshop or £10 for both! (Includes refreshments and a light Christmas buffet!)
Wednesday 19th November to Friday 21st November | 9.30- 12.30pm
£100
Wednesday 12th November| 11am- 1pm
£1 (includes refreshments)
Friday 17th October | 9.30am - 11am (and then every Friday until 14th November)
Free
Wednesday 8th October | 11am- 1pm
£1 (includes refreshments)