EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Tag Archive: cynaladwyedd

  1. Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    Comments Off on Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    English article here

    Gwahoddwyd teuluoedd Glynebwy i ddigwyddiad Dathlu Nadoligaidd yn yr EVI yn ddiweddar. Roeddem yn nodi diwedd prosiect cynaladwyedd blwyddyn o hyd, yn gwella effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad hanesyddol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.

    Yn fis Rhagfyr 2019 derbyniodd yr EVI £32.523 o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei reoli gan CGGC. Dros y flwyddyn rydym wedi gwella’r gwresogi a’r goleuadau yn yr EVI, wedi cynnal gweithdy Llygredd Plastig gyda phobl ifanc, creu paradwys trychfilod yn yr ardd o flaen yr adeilad yn ystod gweithdy garddio bywyd gwyllt, wedi hyfforddi gwirfoddolwyr mewn ysgrifennu blogiau a chreu fideos gan greu banc o erthyglau ar ein gwefan, ac yn olaf, dathliad Nadolig mawr gyda thwist cynaliadwy.

    Gwahoddiad i ddathlu

    Ymestynnwyd gwahoddiad i bobl y gymuned i ddod i ymuno gyda ni ar ddiwedd mis Tachwedd i ddathlu Nadolig cynaliadwy gyda bwyd a disgo pŵer pedal i’r plant, gwin poeth a mins pei i’r rhieni, a gweithdai yn creu nwyddau Nadolig o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu.

    Roedd 100 o lefydd ar gael, a llenwyd y rhain yn sydyn iawn. Darparwyd adloniant gan U3A (University of the Third Age) fu’n canu ac yn cynnal gweithgareddau canu i’r plant. Roedd y bwyd yn llwyddiant mawr, a phob briwsyn wedi’i fwyta, dim gwastraff o gwbl!

    Pweru parti

    Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r disgo pŵer pedal, a’r dyn eira, gyda’r plant yn cadw’r gerddoriaeth i fynd, y dyn eira llawn aer a goleuadau’r goeden Nadolig i fflachio drwy’r nos. Pŵer y bobl!

    Roedd y gweithdai yn boblogaidd iawn, gyda phawb yn cymryd rhan. Roedd pobl wrth eu boddau yn cael creu’r coed Nadolig a’r bôbls allan o froc môr a hen baledi, dysgu ychydig o pyrograffeg a chael mynd â’r rhain gartref gyda nhw.

    Daeth dau o’r gwirfoddolwyr fu’n rhan o’n hyfforddiant ysgrifennu blog draw i helpu. Roedd Jamie Lee a Victoria yn gymorth mawr gyda’r gweithdai ac roeddem wrth ein boddau cael clywed sut roedd erthygl Jamie Lee, Plannu Coed i Achub y Byd, wedi’u hysbrydoli i blannu coed mewn coedwig gwarchodfa.

    Addewid i fod yn wyrddach

    Daeth adran ailgylchu a gwastraff Cyngor Blaenau Gwent draw i roi gwybodaeth a chyngor am gasgliadau ailgylchu wythnosol.

    Daeth dysgwyr Llamau (fu’n cymryd rhan yn rhai o’n gweithdai) draw hefyd gydag arddangosfa ryngweithiol. Roeddent yn gofyn i bobl i wneud addewidion ar gyfer Nadolig cynaliadwy ac i helpu’r amgylchedd.

    Cafodd y dysgwyr amser da iawn yn gweithio â’i gilydd i greu’r byrddau arddangos, a dysgodd pawb rywbeth newydd am gynaladwyedd, a gobeithio bydd y negeseuon yma yn cael eu rhannu.” meddai tiwtor Learning 4 Life Llamau.

    Cafwyd addewidion gwych ar y goeden addewidion. Dyma ychydig ohonynt:

    • – Defnyddio bagiau cotwm i siopa
    • – Addo ceisio defnyddio’r swm lleiaf o blastig bosib
    • – Lapio anrhegion Nadolig mewn papur newydd!
    • – Ailgylchu cymaint ag sy’n bosib
    • – Clirio plastig oddi ar y traeth

    Roedd Llamau yn cymryd archebion am glecars ‘Dolig di-blastig ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol am ffyrdd cyfeillgar i’r amgylchedd i lapio anrhegion.

    Nid dyma’r diwedd

    Roedd Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau’r EVI, wrth ei bodd gyda llwyddiant y digwyddiad ac yn meddwl mai dyma oedd y ffordd berffaith i gloi’r prosiect blwyddyn.

    “Rydym wedi cyrraedd pen taith y prosiect hwn, ac wedi cyflawni cymaint yma yn yr EVI,” meddai.

    “Rydym wedi helpu codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a materion amgylcheddol ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn integrol i hyn. Maent wedi helpu gyda’r ymgyrch cyfathrebu. Ar ôl derbyn hyfforddiant mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i helpu prosiectau amgylcheddol eraill. Roedd y digwyddiad Nadolig yn ffordd berffaith i derfyn pethau, wrth gynnwys y gymuned gyfan yn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yma.”

    Ac nid dyma ddiwedd y daith i’r gwaith cynaladwyedd yn yr EVI meddai Sam.

    “Dim ond megis cychwyn mae’r gwaith i greu EVI mwy cynaliadwy a gwyrddach. Rydym wedi dysgu llawer o wybodaeth a  sgiliau newydd ar hyd y daith ac yn awyddus i barhau’r gwaith yma”.

  2. Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    Comments Off on Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    English article here

    Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae yna lawer wedi bod yn digwydd yn yr EVI i wella cynaladwyedd yr adeilad a’r ardal gyfagos. Wrth i ni gyrraedd diwedd y cyfnod yma o’n gyriad cynaladwyedd arbennig rydym yn gwahodd trigolion Glynebwy i ymuno â ni mewn dathliad Nadoligaidd a chreu addurniadau sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

    Ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd rydym yn gwahodd holl aelodau ein cymuned i ymuno gyda ni rhwng 4yp a 7yh ar gyfer ein digwyddiad Hwyl yr Ŵyl i’r teulu. Bydd yna ddisgo pŵer pedal, bwffe i’r plant a gwydriad o win poeth a mins pei i’r rhieni. Byddem hefyd yn cynnal gweithdai ailgylchu hwyl yn creu coed Nadolig o froc môr a bôbls Nadolig… a hyn i gyd AM DDIM.

    Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal i ddathlu diwedd ein prosiect cynaliadwy sydd wedi bod yn rhedeg dros yr ychydig fisoedd nesaf gyda £32,523 o ariannu gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Mae’r EVI wedi bod yn fwrlwm o weithgareddau fel rhan o’r prosiect hwn.

    Goleuadau Godidog

    Y peth cyntaf i’w wneud oedd ceisio lleihau’r defnydd o ynni yn yr EVI. Roedd adolygiad ynni’r EVI eisoes wedi’i gyflawni ac yn amlygu’r ardaloedd yn yr adeilad oedd yn gwastraffu ynni fwyaf. Roedd yr arian derbyniodd yr EVI yn caniatáu i ni gyflawni’r gwelliannau awgrymwyd yn yr adroddiad adolygiad ynni. Roedd goleuadau yn wastraff ynni mawr, felly defnyddiwyd peth o’r arian i newid y goleuadau i gyd i rai LED, sydd yn defnyddio 90% llai o ynni. Gosodwyd sychwyr dwylo eco newydd yn y toiledau hefyd, sydd yn defnyddio aer oer yn hytrach na phoeth.

    Roedd drafftiau a gwres yn broblem yn yr adeilad mawr, hanesyddol yma. Rhai o’r problemau mwyaf oedd drysau’n cael eu cadw’n agored, gwresogi ystafelloedd gwag a defnyddio gwresogyddion trydan drud. Cafodd hyn ei ddatrys wrth osod dyfais cau drws awtomatig ar y drysau i gyd, rheolyddion awtomatig ar y rheiddiaduron a mesurwyr ynni. Cafwyd gwared ar y gwresogyddion trydan cludadwy a gosod gwresogyddion wal ynni effeithlon newydd gydag amserydd 10 munud. Roedd y pympiau gwres o’r awyr, gosodwyd pan adferwyd yr adeilad dros ddegawd yn ôl, angen eu trwsio gan am eu bod yn aneffeithlon bellach. Yn y gaeaf roedd rhaid defnyddio’r boeler nwy wrth gefn i gynhesu’r adeilad. Caniataodd yr ariannu yma i ni drwsio’r pympiau, ac felly gallem unwaith eto wresogi’r EVI gyda’r pympiau ynni effeithlon ran amlaf.

    Bug Houses/Tai trychfilod - a Sustainable Christmas - nadolig cynaliadwy

    Ysbrydoli’r Gymuned

    Fel rhan o’n prosiect cynaladwyedd roeddem yn awyddus i gynnwys y gymuned wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant. Y bwriad oedd dysgu sgiliau a hysbysu’r cyhoedd am gynaladwyedd a’r hyn gallant ei wneud. Yn fis Ebrill cynhaliwyd gweithdy llygredd plastig yn yr EVI ar gyfer Diwrnod y Ddaear. Rhannom wybodaeth am gyffredinrwydd plastig yn ein bywydau a’r hyn gellir ei wneud i leihau hyn.

    Yn fis Mehefin cynhaliwyd gweithdy garddio bywyd gwyllt gyda Eggseeds i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal. Bu’r gwirfoddolwyr ifanc yn adeiladu sawl gwesty trychfilod a bomiau hadau. Mae’r gwestai trychfilod lliwgar yn sefyll yn falch o flaen yr EVI.

    Grym mewn Gwybodaeth

    Rhan bwysig o’r prosiect i ni ydy annog pobl yn yr ardal i’n helpu i rannu’r neges cynaladwyedd. Rhoddwyd gwahoddiad i’r rhai oedd â diddordeb helpu rhannu’r neges i fynychu dwy sesiwn hyfforddiant gwahanol. Roedd y cyntaf yn weithdy blogio a chreu fideo. Dysgwyd sgiliau cynllunio a chreu fideo eu hunain. Er mai dim ond diwrnod oedd ganddynt i wneud popeth, llwyddwyd i greu’r fideo canlynol hefyd, yn dangos yr holl waith oedd wedi bod yn digwydd yn yr EVI hyd yma.

    Roedd yr ail sesiwn yn weithdy ysgrifennu blogiau. Dewisodd y mynychwyr bwnc oedd o ddiddordeb iddynt a chreu sawl erthygl yn hyrwyddo’r neges cynaladwyedd ac effeithiolrwydd ynni. Roedd yr erthyglau yn cynnwys sut i leihau’n defnydd o garbon, plannu coed, te cynaliadwy a mwy. Mae’r erthyglau yma i gyd wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan yr EVI. Mae’r rhestr lawn i’w weld yn yr Erthyglau Perthnasol isod.

    Ymunwch â ni

    Mae’r digwyddiad Hwyl yr Ŵyl yn ffordd o ddathlu’r holl waith sydd wedi’i gyflawni ac i barhau i rannu’r neges cynaladwyedd mewn ffordd hwyl wrth greu addurniadau Nadolig i fynd adref gyda chi. Felly i ailadrodd – disgo pŵer pedal, bwffe, gwin poeth a mins peis – a glywsoch chi ei fod yn rhad ac AM DDIM? Ymunwch â ni i ddathlu a chreu gan gofrestru’ch diddordeb yma:

    https://evi.cymru/classes/hwyl-nadoligaidd-am-ddim-ir-teulu/

    Erthyglau perthnasol:


  3. Plannu Coed i Achub y Byd?

    Comments Off on Plannu Coed i Achub y Byd?

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Jamie Lee Morris mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Mae datgoedwigo yn un o’r materion amgylcheddol sydd yn cael ei anwybyddu fwyaf, un sydd angen mwy o  gydnabyddiaeth. Mae colli coed neu lystyfiant arall yn gallu arwain at nifer o broblemau pryderus i’r byd a’n planed.

    Mae’r problemau yma yn cynnwys:

    • – Newid hinsawdd
    • – Llifogydd
    • – Cynyddiad mewn nwyon tŷ gwydr
    • – Diffeithdiro
    • – Dinistrio Cynefinoedd

    Newid hinsawdd

    Yn ôl y Stern Review on the Economics of Climate Change, mae datgoedwigo yn cyfrannu at dros 18% o holl allyriadau’r byd. Mae hynny’n fwy nag allyriadau byd-eang trafnidiaeth i gyd – gwarthus!

    Lifogydd

    Darganfuwyd hefyd bod datgoedwigo yn gallu cynyddu’r perygl o lifogydd. Mae llystyfiant yn amsugno ac yn rhyngdorri’r dŵr i gydbwyso’r lefelau dŵr.

    Mae Cymoedd De Cymru yn llawn cerrig anathraidd (tywodfaen yn benodol, sydd yn boblogaidd gyda dringwyr), sydd yn cynyddu’r dŵr ffo. Gall hyn gyfrannu at lifogydd.

    Cynyddiad nwyon tŷ gwydr

     Mae torri coed i lawr yn golygu bod anghydbwysedd o nwyon tai gwydr yn yr atmosffer. Mae hyn yn cynyddu lefelau carbon deuocsid. Mae hyn yn cyfrannu at gynhesu byd-eang a chwalfa cynefinoedd oherwydd newid hinsawdd.

    Diffeithdiro

    Datgoedwigo yw prif achos colli llystyfiant mewn ardaloedd, ac felly’n creu anialwch mewn lleoliad oedd unwaith yn dir ffrwythlon. Mae hyn hefyd yn chwalu bywyd gwyllt a chartrefi anifeiliaid.

    Casgliad

    Mae’n amlwg bod yr effaith mae coed yn ei gael ar ein hamgylchedd yn enfawr pan ddaw at gynnal byd cynaliadwy. Dychmygwch fyd heb goed a’r canlyniadau niweidiol fydda hyn yn achosi. Gall pawb wneud gwahaniaeth. Helpwch ni i ganiatáu i’r byd ffynnu.

    Erthyglau perthnasol

  4. Trafod Cynaladwyedd Dros Baned o De

    Comments Off on Trafod Cynaladwyedd Dros Baned o De

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Victoria Williams mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Mae pawb yn bwriadu bod yn ecogyfeillgar a chael effaith positif ar ein byd, ond oeddech chi’n gwybod bod yfed eich paned arferol yn gallu achosi difrod?

    Pam? Prydain yw’r drydedd wlad sydd yn yfed y mwyaf o de yn y byd (y tu ôl i Dwrci a’r Iwerddon), ond nid yw’r te yma yn cael ei dyfu gartref. Mae’r mwyafrif yn dod o’r Affrica (Kenya yn enwedig), Sri Lanka, India a Tsieina. Mae hyn yn llawer iawn o amser teithio i’n hoff ddiod boeth.

    Yn ogystal, mae’r bagiau yn aml yn cynnwys plastig ac nid ydynt yn troi’n gompost yn iawn – felly mae’r miloedd rydym yn ei yfed bob dydd, fel arfer, yn mynd i dirlenwi. Hyn i gyd cyn hyd yn oed ystyried y trydan ychwanegol sydd ei angen i bweru miloedd o degellau am hanner amser pan fydd y bêl droed ymlaen.

    Yn ôl Cyfrifydd Bwyd Newid Hinsawdd y BBC, mae yfed ychydig gwpanau’r dydd, bob dydd, am flwyddyn yn allyrru 30kg o garbon bob blwyddyn – cymaint â gyrru car petrol am 78 milltir. Y newyddion gorau i de ydy bod coffi, cwrw a gwin yn waeth nag hynny.

    Paned eco-ymwybodol

    Mae yna gwmnïoedd yn bodoli sydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Os ydych chi’n dymuno gwneud dewis mwy cynaliadwy pan ddaw at eich hoff baned, yna edrychwch ar y rhestr isod.

    1. Cornish Tea Company

    Box of Cornish Tea for sustainabili-TEA article
     Delwedd gan Cornish Tea Co

    Mae prynu a defnyddio bagiau te yn rhywbeth sydd yn rhaid gwneud i chi gael yfed te. I helpu’r amgylchedd newidiwch i fagiau bioddiraddadwy. Mae “bagiau ymdoddiad” arbennig Cornish Tea yn cynnwys sawl blas ac wedi’u creu o fagiau 100% corn startsh bioddiraddadwy.

    Delwedd gan teapigs

    2. Tea Pigs

    Brand cynaliadwy arall ydy Tea Pigs. Maent yn creu amrywiaeth eang o flasau ar gyfer unrhyw dymer a sefyllfa. Maent yn credu dylai te fod yn bur ac yn syml, ac maent yn gwireddu hyn wrth beidio ychwanegu unrhyw beth niweidiol. Mae’r pecynnu yn gwbl rydd o  blastig a nhw yw’r brand cyntaf i dderbyn y Plastic Free Trust Mark.

    Delwedd gan Clipper

    3.Clipper Tea

    Mae Clipper yn frand naturiol a chwbl organig. Maent yn derbyn arweiniad o egwyddorion organig ac wedi ymrwymo i fod yn rhydd o organebau wedi’i haddasu’n enetig (OAG) wrth ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau sydd ddim yn OAG. Mae’r brand ei hun yn canolbwyntio ar ddarganfod ffyrdd newydd i fod yn naturiol yn gyson.

    Delwedd gan Numi Tea

    4.Numi Teas

    Mae Numi yn cyflawni ymhob agwedd pan ddaw at gynaladwyedd. Nid yn unig wrth ddefnyddio cynhwysion sydd yn dod yn syth o’r planhigion 100% ond wrth ddefnyddio pecynnu cynaliadwy hefyd. Maent hefyd yn cyfrannu rhoddion i osod yn erbyn eu hallyriadau carbon a chefnogi sefydliadau amgylcheddol dielw.


    Felly dyna chi, y brandiau gorau i ganiatáu i chi fwynhau eich paned o de heb deimlo euogrwydd amgylcheddol. Mwynhewch!

    Erthyglau perthnasol:

  5. 5 Cam i Fyw Bywyd Mwy Cynaliadwy

    Comments Off on 5 Cam i Fyw Bywyd Mwy Cynaliadwy

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan wirfoddolwr mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Yn 2019, oherwydd tyfiant cyflym yn y boblogaeth a threfoli, disgwylir bydd cynhyrchiad gwastraff blynyddol yn cynyddu 70% o lefelau 2016 i 3.40 biliwn tunnell yn 2050.

    Ond mae’n gyfnod gwahanol nawr ac mae pobl wedi darganfod ffyrdd newydd anhygoel i gynnal y bywyd rydym yn ei fyw ac efallai bydd yn newid dyfodol dynoliaeth.

    Plastig

    Plastic straws for sustainable article

    Mae llygredd plastig yn bryder mawr, yn llygru ein moroedd a niweidio bywyd gwyllt. Ond mae dylanwadwyr mawr fel y YouTuber Jeffree Star ac enwogion eraill wedi dod yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae Star wedi creu gwelltyn metel sydd yn gallu cael  ei ailddefnyddio ac yn ecogyfeillgar (o gymharu â gwelltyn plastig, sydd ddim yn gallu cael ei ailddefnyddio).

    Gwresogi

    radiator for sustainable article

    Wrth ddefnyddio’r system gwresogi yn ein cartref, rydym yn cynyddu’r defnydd o danwydd ffosil a nwyon tŷ gwydr. Mae gan y mwyafrif o bobl systemau gwres canolog yn eu cartref sydd yn cael ei ddefnyddio trwy gydol y dydd. Gall pawb ddefnyddio llai o wres wrth lapio’n gynnes a gwisgo mwy o ddillad.

    Trafnidiaeth

    bicycle for sustainable article

    Yn 2019 amcangyfrif bydd dros 79 miliwn o geir wedi’u gwerthu. Er bod gan lawer o bobl gar, maent yn defnyddio llawer iawn o garbon yn y broses cynhyrchu yn ogystal â gyrru. Mae mwy a mwy o bobl yn arloesol pan ddaw at drafnidiaeth weithredol, fel beicio a cherdded. Mae ceir yn fwy cynorthwyol mewn sefyllfaoedd ble mae pobl yn teithio pellteroedd hir. Mae yna restr ddefnyddiol o lwybrau beicio yng Nglynebwy ar RouteYou.com.

    Materoliaeth

    balloon for sustainable article

    Mae’r cyfnod wedi newid, ac yn ôl ymchwil, mae profiadau yn gwneud rhywun yn hapusach yn hirach nag y mae pethau materyddol, sydd ag ystyr cyfyngedig fel arfer. Y tro nesaf rydych chi eisiau dangos i rywun pa mor bwysig ydynt i chi, rhowch eich amser iddynt, a phrofiad sydd yn annhebyg i ddim arall – un na fyddech yn anghofio. Mae pethau materyddol yn aml yn cael ei daflu ac yn cael ei anghofio, sydd yn gwastraffu darn bach, ond sylweddol, o’n byd. Dyma restr Going Zero Waste am 50 syniad am anrhegion profiad sydd yn amrywio o ran cost – o goffi i wyliau.

    Bwyd

    Yn olaf, wrth ddefnyddio bwyd dros ben o’r oergell a’r rhewgell gall pobl ddod yn gynaliadwy. Wrth gadw trac o’r hyn sydd yn cael ei brynu a’i daflu, byddech chi’n gwastraffu llai o fwyd. Mae yna dystiolaeth hefyd bod dyddiadau ‘Best Before’ yn gamarweiniol ac yn golygu bod pobl yn taflu bwyd yn rhy fuan. Edrychwch ar rai o’r ryseitiau yma gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn defnyddio bwyd dros ben.


    Ar y cyfan, prif syniad cynaladwyedd ydy canolbwyntio ar anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenhedlaeth y dyfodol i gyfarfod eu hanghenion. Yn fyr, mae angen i ni wneud newidiadau bach yn y ffordd rydym yn byw fel nad yw cenhedlaeth y dyfodol yn gwneud yr un camgymeriadau.

    Erthyglau perthnasol.

  6. Taclo Llygredd Plastig yn yr EVI

    Comments Off on Taclo Llygredd Plastig yn yr EVI

    English article here

    Mae ‘cynaladwyedd’ i’w weld ym mhobman ar y funud, ac mae Institiwt Glynebwy yn hapus i fod yn cyfrannu at hyn gyda’i yriant cynaladwyedd cyfredol yn yr adeilad, ac yn y gymuned. Yn ôl yn fis Ebrill bu Llamau, elusen ddigartrefedd yng Nghymru, yn cynnal gweithdy llygredd plastig ar gyfer Diwrnod y Ddaear.

    Mae Laura Wheeler o Llamau, oedd yn cyflwyno’r gweithdy, yn angerddol iawn yn bersonol am lygredd plastig. Cychwynnodd Laura wrth ddangos delweddau brawychus o lygredd plastig i’r bobl ifanc, fel adar a bywyd gwyllt y môr yn cael eu mygu gan y rwbel plastig, neu bysgotwyr yn hwylio trwy’r riff gwenwynig. Yna, gofynnodd sut roedd hynny yn gwneud iddynt deimlo.

    Sut mae llygredd plastig yn gwneud i ti deimlo?

    “Yn sâl”, oedd ateb un.

    “Trist”, meddai rhywun arall.

    “Euog. Isel. Cywilydd. Sioc. Ffieidd-dod.”

    Mae’n glir nad yw neb yn falch o’r effaith mae angen pobl am blastig wedi ei gael ar foroedd y blaned. Ond sut mae hyn yn effeithio arnom ni?

    Plastig, plastig, ym mhobman

    Roedd yn amser meddwl am gyffredinrwydd plastig ym mhob agwedd o’n bywydau. Mae yna micro-ddarnau o blastig mewn cynnyrch gofal croen a phlastig mewn dillad polyester. Mae pethau sydd wedi’u creu o gerdyn, gwydr neu bren yn gallu cael darnau bach ychwanegol o blastig ynddynt. Pan fyddech chi’n golchi dillad synthetig mae darnau bach, bach o micro-ffibr plastig yn mynd i’r cyflenwad dŵr. Mae’r pysgod yn bwyta’r plastig yma ac yna rydym ni’n bwyta’r pysgod. Edrychwyd ar offer meddygol hefyd, fel pympiau asthma, diferion, pigiadau ac ati. Cytunwyd bod y rhain yn eithriad buddiol.

    Bu’r grŵp yn ystyried y dadansoddiad cost a budd o leihau’r defnydd o blastig. Mae’r oedolyn arferol yn prynu tair potel dŵr plastig yr wythnos. Os ydym yn talu am fotel gellir ei ail-ddefnyddio, pa mor hir nes y byddem wedi adennill y buddsoddiad yma? Ond pan rydych chi ar gyllideb dynn, mae’r gost gychwynnol yn gallu atal pobl yn anffodus. A ddylai’r llywodraeth a’r corfforaethau mawr fod yn gwneud pethau’n haws i unigolion fedru gwneud dewisiadau cynaliadwy?

    Gwneud gwahaniaeth

    Soniodd un mynychwr bod ei brawd yn mynd i’r archfarchnad weithiau ac yn gadael yr holl ddeunydd pacio plastig ar y ddesg talu. Wrth drafod hyn fel grŵp, penderfynwyd bod hyn yn achosi anhwylustod i’r gweithwyr yn yr archfarchnad a’r neges yn annhebygol o gyrraedd y rheolwyr uwch neu’r cyflenwyr.

    Dangosodd Laura ychydig o bethau oedd yn ddewis gwahanol i blastig. Er esiampl, wrth wneud brechdanau, mae’n eu lapio mewn defnydd cŵyr gwenyn yn hytrach nag ‘cling film’. Gallech chi ddefnyddio defnydd cŵyr gwenyn fel caead ar jariau hefyd – ei osod ar y top a bydd gwres eich llaw yn cau’r bwlch aer. Mae’n wrthfacteria, yn ddiwenwyn, ac yn gwbl fioddiraddadwy hefyd wrth gwrs. Mae posib creu hwn eich hun adref os hoffech.

    Yna dangosodd Laura lwyth o gynnyrch sydd yn rhydd o ddeunydd pacio a phlastig, o sgrwb corff i siampŵ, un o’r ffyrdd hawsaf i leihau plastig yn ein bywydau yn sylweddol.

    Un awgrym olaf gan Laura: os oes rhaid prynu rhywbeth mewn potel blastig, prynwch mewn poteli mwy ac/neu ei brynu’n ddwys (concentrate), ac felly’n lleihau eich defnydd o blastig.

    Ar y cyfan, roedd hwn yn sesiwn lwyddiannus iawn yn meddwl pa gamau bychan gellir ei gymryd i wella ein hymarferion cynaladwyedd.

    Mae’r EVI wedi bod yn gwella cynaladwyedd yr adeilad ac yn cynnal gweithdai cynaladwyedd fel rhan o brosiect sydd yn cael ei gefnogi gan WCVA, diolch i arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rydym wedi cwblhau gwaith i wella’r pympiau gwres o’r awyr a’r goleuadau yn yr EVI.

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy