Taclo Llygredd Plastig yn yr EVI
Comments Off on Taclo Llygredd Plastig yn yr EVIMae ‘cynaladwyedd’ i’w weld ym mhobman ar y funud, ac mae Institiwt Glynebwy yn hapus i fod yn cyfrannu at hyn gyda’i yriant cynaladwyedd cyfredol yn yr adeilad, ac yn y gymuned. Yn ôl yn fis Ebrill bu Llamau, elusen ddigartrefedd yng Nghymru, yn cynnal gweithdy llygredd plastig ar gyfer Diwrnod y Ddaear.
Mae Laura Wheeler o Llamau, oedd yn cyflwyno’r gweithdy, yn angerddol iawn yn bersonol am lygredd plastig. Cychwynnodd Laura wrth ddangos delweddau brawychus o lygredd plastig i’r bobl ifanc, fel adar a bywyd gwyllt y môr yn cael eu mygu gan y rwbel plastig, neu bysgotwyr yn hwylio trwy’r riff gwenwynig. Yna, gofynnodd sut roedd hynny yn gwneud iddynt deimlo.
Sut mae llygredd plastig yn gwneud i ti deimlo?
“Yn sâl”, oedd ateb un.
“Trist”, meddai rhywun arall.
“Euog. Isel. Cywilydd. Sioc. Ffieidd-dod.”
Mae’n glir nad yw neb yn falch o’r effaith mae angen pobl am blastig wedi ei gael ar foroedd y blaned. Ond sut mae hyn yn effeithio arnom ni?
Plastig, plastig, ym mhobman
Roedd yn amser meddwl am gyffredinrwydd plastig ym mhob agwedd o’n bywydau. Mae yna micro-ddarnau o blastig mewn cynnyrch gofal croen a phlastig mewn dillad polyester. Mae pethau sydd wedi’u creu o gerdyn, gwydr neu bren yn gallu cael darnau bach ychwanegol o blastig ynddynt. Pan fyddech chi’n golchi dillad synthetig mae darnau bach, bach o micro-ffibr plastig yn mynd i’r cyflenwad dŵr. Mae’r pysgod yn bwyta’r plastig yma ac yna rydym ni’n bwyta’r pysgod. Edrychwyd ar offer meddygol hefyd, fel pympiau asthma, diferion, pigiadau ac ati. Cytunwyd bod y rhain yn eithriad buddiol.
Bu’r grŵp yn ystyried y dadansoddiad cost a budd o leihau’r defnydd o blastig. Mae’r oedolyn arferol yn prynu tair potel dŵr plastig yr wythnos. Os ydym yn talu am fotel gellir ei ail-ddefnyddio, pa mor hir nes y byddem wedi adennill y buddsoddiad yma? Ond pan rydych chi ar gyllideb dynn, mae’r gost gychwynnol yn gallu atal pobl yn anffodus. A ddylai’r llywodraeth a’r corfforaethau mawr fod yn gwneud pethau’n haws i unigolion fedru gwneud dewisiadau cynaliadwy?
Gwneud gwahaniaeth
Soniodd un mynychwr bod ei brawd yn mynd i’r archfarchnad weithiau ac yn gadael yr holl ddeunydd pacio plastig ar y ddesg talu. Wrth drafod hyn fel grŵp, penderfynwyd bod hyn yn achosi anhwylustod i’r gweithwyr yn yr archfarchnad a’r neges yn annhebygol o gyrraedd y rheolwyr uwch neu’r cyflenwyr.
Dangosodd Laura ychydig o bethau oedd yn ddewis gwahanol i blastig. Er esiampl, wrth wneud brechdanau, mae’n eu lapio mewn defnydd cŵyr gwenyn yn hytrach nag ‘cling film’. Gallech chi ddefnyddio defnydd cŵyr gwenyn fel caead ar jariau hefyd – ei osod ar y top a bydd gwres eich llaw yn cau’r bwlch aer. Mae’n wrthfacteria, yn ddiwenwyn, ac yn gwbl fioddiraddadwy hefyd wrth gwrs. Mae posib creu hwn eich hun adref os hoffech.
Yna dangosodd Laura lwyth o gynnyrch sydd yn rhydd o ddeunydd pacio a phlastig, o sgrwb corff i siampŵ, un o’r ffyrdd hawsaf i leihau plastig yn ein bywydau yn sylweddol.
Un awgrym olaf gan Laura: os oes rhaid prynu rhywbeth mewn potel blastig, prynwch mewn poteli mwy ac/neu ei brynu’n ddwys (concentrate), ac felly’n lleihau eich defnydd o blastig.
Ar y cyfan, roedd hwn yn sesiwn lwyddiannus iawn yn meddwl pa gamau bychan gellir ei gymryd i wella ein hymarferion cynaladwyedd.
Mae’r EVI wedi bod yn gwella cynaladwyedd yr adeilad ac yn cynnal gweithdai cynaladwyedd fel rhan o brosiect sydd yn cael ei gefnogi gan WCVA, diolch i arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rydym wedi cwblhau gwaith i wella’r pympiau gwres o’r awyr a’r goleuadau yn yr EVI.