Plannu Coed i Achub y Byd?
Comments Off on Plannu Coed i Achub y Byd?Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Jamie Lee Morris mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.
Mae datgoedwigo yn un o’r materion amgylcheddol sydd yn cael ei anwybyddu fwyaf, un sydd angen mwy o gydnabyddiaeth. Mae colli coed neu lystyfiant arall yn gallu arwain at nifer o broblemau pryderus i’r byd a’n planed.
Mae’r problemau yma yn cynnwys:
- – Newid hinsawdd
- – Llifogydd
- – Cynyddiad mewn nwyon tŷ gwydr
- – Diffeithdiro
- – Dinistrio Cynefinoedd
Newid hinsawdd
Yn ôl y Stern Review on the Economics of Climate Change, mae datgoedwigo yn cyfrannu at dros 18% o holl allyriadau’r byd. Mae hynny’n fwy nag allyriadau byd-eang trafnidiaeth i gyd – gwarthus!
Lifogydd
Darganfuwyd hefyd bod datgoedwigo yn gallu cynyddu’r perygl o lifogydd. Mae llystyfiant yn amsugno ac yn rhyngdorri’r dŵr i gydbwyso’r lefelau dŵr.
Mae Cymoedd De Cymru yn llawn cerrig anathraidd (tywodfaen yn benodol, sydd yn boblogaidd gyda dringwyr), sydd yn cynyddu’r dŵr ffo. Gall hyn gyfrannu at lifogydd.
Cynyddiad nwyon tŷ gwydr
Mae torri coed i lawr yn golygu bod anghydbwysedd o nwyon tai gwydr yn yr atmosffer. Mae hyn yn cynyddu lefelau carbon deuocsid. Mae hyn yn cyfrannu at gynhesu byd-eang a chwalfa cynefinoedd oherwydd newid hinsawdd.
Diffeithdiro
Datgoedwigo yw prif achos colli llystyfiant mewn ardaloedd, ac felly’n creu anialwch mewn lleoliad oedd unwaith yn dir ffrwythlon. Mae hyn hefyd yn chwalu bywyd gwyllt a chartrefi anifeiliaid.
Casgliad
Mae’n amlwg bod yr effaith mae coed yn ei gael ar ein hamgylchedd yn enfawr pan ddaw at gynnal byd cynaliadwy. Dychmygwch fyd heb goed a’r canlyniadau niweidiol fydda hyn yn achosi. Gall pawb wneud gwahaniaeth. Helpwch ni i ganiatáu i’r byd ffynnu.