EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Tag Archive: Effeithiolrwydd ynni

  1. Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    Comments Off on Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    English article here

    Gwahoddwyd teuluoedd Glynebwy i ddigwyddiad Dathlu Nadoligaidd yn yr EVI yn ddiweddar. Roeddem yn nodi diwedd prosiect cynaladwyedd blwyddyn o hyd, yn gwella effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad hanesyddol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.

    Yn fis Rhagfyr 2019 derbyniodd yr EVI £32.523 o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei reoli gan CGGC. Dros y flwyddyn rydym wedi gwella’r gwresogi a’r goleuadau yn yr EVI, wedi cynnal gweithdy Llygredd Plastig gyda phobl ifanc, creu paradwys trychfilod yn yr ardd o flaen yr adeilad yn ystod gweithdy garddio bywyd gwyllt, wedi hyfforddi gwirfoddolwyr mewn ysgrifennu blogiau a chreu fideos gan greu banc o erthyglau ar ein gwefan, ac yn olaf, dathliad Nadolig mawr gyda thwist cynaliadwy.

    Gwahoddiad i ddathlu

    Ymestynnwyd gwahoddiad i bobl y gymuned i ddod i ymuno gyda ni ar ddiwedd mis Tachwedd i ddathlu Nadolig cynaliadwy gyda bwyd a disgo pŵer pedal i’r plant, gwin poeth a mins pei i’r rhieni, a gweithdai yn creu nwyddau Nadolig o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu.

    Roedd 100 o lefydd ar gael, a llenwyd y rhain yn sydyn iawn. Darparwyd adloniant gan U3A (University of the Third Age) fu’n canu ac yn cynnal gweithgareddau canu i’r plant. Roedd y bwyd yn llwyddiant mawr, a phob briwsyn wedi’i fwyta, dim gwastraff o gwbl!

    Pweru parti

    Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r disgo pŵer pedal, a’r dyn eira, gyda’r plant yn cadw’r gerddoriaeth i fynd, y dyn eira llawn aer a goleuadau’r goeden Nadolig i fflachio drwy’r nos. Pŵer y bobl!

    Roedd y gweithdai yn boblogaidd iawn, gyda phawb yn cymryd rhan. Roedd pobl wrth eu boddau yn cael creu’r coed Nadolig a’r bôbls allan o froc môr a hen baledi, dysgu ychydig o pyrograffeg a chael mynd â’r rhain gartref gyda nhw.

    Daeth dau o’r gwirfoddolwyr fu’n rhan o’n hyfforddiant ysgrifennu blog draw i helpu. Roedd Jamie Lee a Victoria yn gymorth mawr gyda’r gweithdai ac roeddem wrth ein boddau cael clywed sut roedd erthygl Jamie Lee, Plannu Coed i Achub y Byd, wedi’u hysbrydoli i blannu coed mewn coedwig gwarchodfa.

    Addewid i fod yn wyrddach

    Daeth adran ailgylchu a gwastraff Cyngor Blaenau Gwent draw i roi gwybodaeth a chyngor am gasgliadau ailgylchu wythnosol.

    Daeth dysgwyr Llamau (fu’n cymryd rhan yn rhai o’n gweithdai) draw hefyd gydag arddangosfa ryngweithiol. Roeddent yn gofyn i bobl i wneud addewidion ar gyfer Nadolig cynaliadwy ac i helpu’r amgylchedd.

    Cafodd y dysgwyr amser da iawn yn gweithio â’i gilydd i greu’r byrddau arddangos, a dysgodd pawb rywbeth newydd am gynaladwyedd, a gobeithio bydd y negeseuon yma yn cael eu rhannu.” meddai tiwtor Learning 4 Life Llamau.

    Cafwyd addewidion gwych ar y goeden addewidion. Dyma ychydig ohonynt:

    • – Defnyddio bagiau cotwm i siopa
    • – Addo ceisio defnyddio’r swm lleiaf o blastig bosib
    • – Lapio anrhegion Nadolig mewn papur newydd!
    • – Ailgylchu cymaint ag sy’n bosib
    • – Clirio plastig oddi ar y traeth

    Roedd Llamau yn cymryd archebion am glecars ‘Dolig di-blastig ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol am ffyrdd cyfeillgar i’r amgylchedd i lapio anrhegion.

    Nid dyma’r diwedd

    Roedd Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau’r EVI, wrth ei bodd gyda llwyddiant y digwyddiad ac yn meddwl mai dyma oedd y ffordd berffaith i gloi’r prosiect blwyddyn.

    “Rydym wedi cyrraedd pen taith y prosiect hwn, ac wedi cyflawni cymaint yma yn yr EVI,” meddai.

    “Rydym wedi helpu codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a materion amgylcheddol ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn integrol i hyn. Maent wedi helpu gyda’r ymgyrch cyfathrebu. Ar ôl derbyn hyfforddiant mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i helpu prosiectau amgylcheddol eraill. Roedd y digwyddiad Nadolig yn ffordd berffaith i derfyn pethau, wrth gynnwys y gymuned gyfan yn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yma.”

    Ac nid dyma ddiwedd y daith i’r gwaith cynaladwyedd yn yr EVI meddai Sam.

    “Dim ond megis cychwyn mae’r gwaith i greu EVI mwy cynaliadwy a gwyrddach. Rydym wedi dysgu llawer o wybodaeth a  sgiliau newydd ar hyd y daith ac yn awyddus i barhau’r gwaith yma”.

  2. Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    Comments Off on Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    English article here

    Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae yna lawer wedi bod yn digwydd yn yr EVI i wella cynaladwyedd yr adeilad a’r ardal gyfagos. Wrth i ni gyrraedd diwedd y cyfnod yma o’n gyriad cynaladwyedd arbennig rydym yn gwahodd trigolion Glynebwy i ymuno â ni mewn dathliad Nadoligaidd a chreu addurniadau sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

    Ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd rydym yn gwahodd holl aelodau ein cymuned i ymuno gyda ni rhwng 4yp a 7yh ar gyfer ein digwyddiad Hwyl yr Ŵyl i’r teulu. Bydd yna ddisgo pŵer pedal, bwffe i’r plant a gwydriad o win poeth a mins pei i’r rhieni. Byddem hefyd yn cynnal gweithdai ailgylchu hwyl yn creu coed Nadolig o froc môr a bôbls Nadolig… a hyn i gyd AM DDIM.

    Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal i ddathlu diwedd ein prosiect cynaliadwy sydd wedi bod yn rhedeg dros yr ychydig fisoedd nesaf gyda £32,523 o ariannu gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Mae’r EVI wedi bod yn fwrlwm o weithgareddau fel rhan o’r prosiect hwn.

    Goleuadau Godidog

    Y peth cyntaf i’w wneud oedd ceisio lleihau’r defnydd o ynni yn yr EVI. Roedd adolygiad ynni’r EVI eisoes wedi’i gyflawni ac yn amlygu’r ardaloedd yn yr adeilad oedd yn gwastraffu ynni fwyaf. Roedd yr arian derbyniodd yr EVI yn caniatáu i ni gyflawni’r gwelliannau awgrymwyd yn yr adroddiad adolygiad ynni. Roedd goleuadau yn wastraff ynni mawr, felly defnyddiwyd peth o’r arian i newid y goleuadau i gyd i rai LED, sydd yn defnyddio 90% llai o ynni. Gosodwyd sychwyr dwylo eco newydd yn y toiledau hefyd, sydd yn defnyddio aer oer yn hytrach na phoeth.

    Roedd drafftiau a gwres yn broblem yn yr adeilad mawr, hanesyddol yma. Rhai o’r problemau mwyaf oedd drysau’n cael eu cadw’n agored, gwresogi ystafelloedd gwag a defnyddio gwresogyddion trydan drud. Cafodd hyn ei ddatrys wrth osod dyfais cau drws awtomatig ar y drysau i gyd, rheolyddion awtomatig ar y rheiddiaduron a mesurwyr ynni. Cafwyd gwared ar y gwresogyddion trydan cludadwy a gosod gwresogyddion wal ynni effeithlon newydd gydag amserydd 10 munud. Roedd y pympiau gwres o’r awyr, gosodwyd pan adferwyd yr adeilad dros ddegawd yn ôl, angen eu trwsio gan am eu bod yn aneffeithlon bellach. Yn y gaeaf roedd rhaid defnyddio’r boeler nwy wrth gefn i gynhesu’r adeilad. Caniataodd yr ariannu yma i ni drwsio’r pympiau, ac felly gallem unwaith eto wresogi’r EVI gyda’r pympiau ynni effeithlon ran amlaf.

    Bug Houses/Tai trychfilod - a Sustainable Christmas - nadolig cynaliadwy

    Ysbrydoli’r Gymuned

    Fel rhan o’n prosiect cynaladwyedd roeddem yn awyddus i gynnwys y gymuned wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant. Y bwriad oedd dysgu sgiliau a hysbysu’r cyhoedd am gynaladwyedd a’r hyn gallant ei wneud. Yn fis Ebrill cynhaliwyd gweithdy llygredd plastig yn yr EVI ar gyfer Diwrnod y Ddaear. Rhannom wybodaeth am gyffredinrwydd plastig yn ein bywydau a’r hyn gellir ei wneud i leihau hyn.

    Yn fis Mehefin cynhaliwyd gweithdy garddio bywyd gwyllt gyda Eggseeds i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal. Bu’r gwirfoddolwyr ifanc yn adeiladu sawl gwesty trychfilod a bomiau hadau. Mae’r gwestai trychfilod lliwgar yn sefyll yn falch o flaen yr EVI.

    Grym mewn Gwybodaeth

    Rhan bwysig o’r prosiect i ni ydy annog pobl yn yr ardal i’n helpu i rannu’r neges cynaladwyedd. Rhoddwyd gwahoddiad i’r rhai oedd â diddordeb helpu rhannu’r neges i fynychu dwy sesiwn hyfforddiant gwahanol. Roedd y cyntaf yn weithdy blogio a chreu fideo. Dysgwyd sgiliau cynllunio a chreu fideo eu hunain. Er mai dim ond diwrnod oedd ganddynt i wneud popeth, llwyddwyd i greu’r fideo canlynol hefyd, yn dangos yr holl waith oedd wedi bod yn digwydd yn yr EVI hyd yma.

    Roedd yr ail sesiwn yn weithdy ysgrifennu blogiau. Dewisodd y mynychwyr bwnc oedd o ddiddordeb iddynt a chreu sawl erthygl yn hyrwyddo’r neges cynaladwyedd ac effeithiolrwydd ynni. Roedd yr erthyglau yn cynnwys sut i leihau’n defnydd o garbon, plannu coed, te cynaliadwy a mwy. Mae’r erthyglau yma i gyd wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan yr EVI. Mae’r rhestr lawn i’w weld yn yr Erthyglau Perthnasol isod.

    Ymunwch â ni

    Mae’r digwyddiad Hwyl yr Ŵyl yn ffordd o ddathlu’r holl waith sydd wedi’i gyflawni ac i barhau i rannu’r neges cynaladwyedd mewn ffordd hwyl wrth greu addurniadau Nadolig i fynd adref gyda chi. Felly i ailadrodd – disgo pŵer pedal, bwffe, gwin poeth a mins peis – a glywsoch chi ei fod yn rhad ac AM DDIM? Ymunwch â ni i ddathlu a chreu gan gofrestru’ch diddordeb yma:

    https://evi.cymru/classes/hwyl-nadoligaidd-am-ddim-ir-teulu/

    Erthyglau perthnasol:


  3. Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    Comments Off on Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Thomas Morris mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Braf yw meddwl bod trwsio ein hamgylchedd anniben yn broblem i rywun arall. Ond mae gan bawb gyfrifioldeb i ddangos i’r rhai sydd mewn grym ein bod eisiau gofalu am ddyfodol bodolaeth ein planed a’r dynol ryw. Byddaf yn dangos ffyrdd hawdd i leihau carbon yn eich bywyd bob dydd.

    Rolls of material for cutting carbon article

    Gwisg y dydd – bob dydd

    Yn ôl pob sôn, mae yna rai pobl sydd yn gwisgo gwisg unwaith yn unig! O ystyried y swm enfawr o ynni ac adnoddau defnyddir gan y diwydiant tecstilau, mae hyn yn syniad ofnadwy! Meddyliwch am yr arian sydd yn cael ei wastraffu wrth ddefnyddio rhywbeth unwaith. Ail-wisgwch eich dillad i gyd. Edrychwch yn steilus bob dydd a gyrru neges i ffasiwn sydyn – mae’n hen bryd i hyn stopio!

    Symud yn fwy gwyrdd

    Mae yna sawl ffordd i deithio o ddydd i ddydd yn wyrdd. Y peth da am wyrddeiddio eich trafnidiaeth ydy bod hyn yn gwella’r amgylchedd lleol yn ogystal â byd eang. Ond, efallai bydd hi’n dipyn o her yn nhermau’r wleidyddiaeth.

    • – Defnyddiwch eich car llai wrth ddefnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth pan fyddech chi’n teithio eich hun.
    • – Wrth feddwl am symud tŷ, rhaid ystyried potensial trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth weithgar eich lleoliad. Dywedwch wrth ddatblygwyr tai na fyddech chi’n prynu tŷ os nad yw’n agos i orsaf trenau.
    • – Ysgrifennwch i gwmnïau rheilffordd i ofyn am fwy o barcio i feiciau mewn gorsafoedd rheilffordd, a pharcio gwell.
    • – Yn hytrach nag prynu ail gar, gallech chi ystyried beic trydan.
    • – Addysgwch eich ffrindiau e.e. oeddech chi’n ymwybodol nad yw ceir hybrid mor gyfeillgar i’r amgylchedd ag y mae’r hysbysebwyr yn ceisio dweud? Mae llawer yn achosi mwy o lygredd na cheir petrol (ond nid disel)
    • – Yn hytrach na phrynu car eich hun, gallech chi ystyried ymuno â chlwb rhannu ceir am y cyfnodau pan fyddech chi angen car
    • – Gofynnwch i’r Llywodraeth i roi mwy o gymhorthdal i deithio cyhoeddus ac actif , yn fwy nag y maent yn cymorthdalu teithio car preifat gyda thanwydd rhad, parcio am ddim ayb yn bresennol.
    • – Gweithio i greu strydoedd a threfi y gellir byw a cherdded ynddynt – os yw’n trefi genedigol yn iwtopaidd, yna ni fydd angen cymaint o wyliau a bydd llai yn hedfan.

    Newid i dariff ynni gwyrdd

    Er bod holl ynni’r Grid Cenedlaethol wedi cymysgu â’i gilydd (nid oes posib gwybod os yw’n dod o ynni glo neu wynt) gallech chi ddewis talu eich biliau i gwmni ynni sydd yn darparu ynni i’r grid o ffynonellau cynaliadwy yn unig.

    Newid i LED a ffenestri dwbl

    Ond nid os ydych chi wedi newid eich goleuadau a’ch ffenestri yn ddiweddar. Bydd hyn yn arbed arian. Dyma sydd wedi bod yn digwydd yn yr EVI yn ddiweddar gydag arian o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Gwyliau Gartref

    Ceisiwch lynu at un daith awyren y flwyddyn os yn bosib. Mae’n debyg nad ydych chi wedi ymweld â llawer iawn lefydd yn y DU. Beth am ystyried taith amlfodd beic-ar-drên i chi’ch hun, neu bacio’r car a mynd i rywle newydd gyda’r teulu i gyd.

    Ni fyddech yn cyfrannu at erydiad llefydd enwog fel Fenis oherwydd twristiaeth, a byddech yn gwario’ch arian ar economïau lleol Prydeinig sydd yn aml yn dioddef.

    Dihatru a boicotio tanwydd ffosil

    Peidiwch roi arian i fanciau sydd yn buddsoddi mewn olew. Gofynnwch i’ch ysgol, cwmni ayb i dynnu stociau allan o olew. Gofynnwch beth mae eich pensiwn yn buddsoddi ynddo.

    Paratoi wrth siopa

    Os ydych chi’n ceisio lleihau eich gwastraff plastig, bydd angen i chi baratoi cyn mynd i siopa. Gallwch chi gario bocsys a jariau i’r siop i brynu pethau rhydd a’u cadw’n lân. Efallai byddech chi’n gwario llai hefyd wrth brynu’r pethau rydych chi eu hangen yn unig.

    Er mwyn lleihau eich teithiau yn y car ymhellach dylech chi feddwl beicio i’r siop neu brynu ar-lein. Gall busnesau ystyried cael beic llwyth yn rhatach trwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

    Bwyta’n lleol a bwyta llai o gig

    Un o’r bwydydd sydd yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr uchel yw cig eidion. Mae bwyta llai o gigoedd fel cig eidion, cig oen a phorc yn ffordd dda i leihau’ch ôl troed carbon.

    Ond os yw’r holl fwydydd ffres yn cael ei hedfan o dramor yna mae byw ar ddiet fegan yn gallu bod yn ddrud iawn i’r Ddaear hefyd . Chwiliwch am fwyd sydd yn cael ei dyfu ym Mhrydain, neu Ewrop o leiaf – efallai bydd angen mabwysiadu diet mwy tymhorol.

    Dysgu pobl sut i ailgylchu’n well

    Helpwch y bobl o’ch cwmpas i ailgylchu’n well. Os ydych chi’n eu hadnabod yn dda yna byddech chi’n deall sut i gael ar yr ochr dda ohonynt!

    Gadael y peiriant torri lawnt i rydu

    Gallech chi wella bioamrywiaeth leol wrth adael i’ch gardd dyfu’n wyllt – peidiwch torri’r lawnt. Dyma pam:

    • – Mae’r mwyafrif o beiriannau torri lawnt yn gweithio gyda phetrol neu drydan, felly bydd hyn yn defnyddio llai o danwydd ffosil.
    • – Byddech chi’n cyfrannu at fioamrywiaeth leol. Mewn dinasoedd modern bydd gwenyn, glöyn byw a llawer o drychfilod eraill yn chwilio am le i nythu. Bydd eich gardd o hyfrydwch – yn hytrach nag darn o lawnt ddiflas wedi’i dorri – yn cynnig cartref clud iddynt.
    • – Mae gadael i’r ardd dyfu’n wyllt yn helpu’r blaned ond mae’n ymddwyn fel sinc carbon lleol hefyd.
    • – Defnyddiwch fomiau hadau i blannu blodau gwyllt a chael pwll bach – efallai gallech chi ddefnyddio hen deiar a tharpolin i greu ardal wlyb i drychfilod. Fe wnaethom hyn yr EVI yn ein gweithdai bomiau blodau a thrychfilod.

    Felly dyna chi, gobeithio bod rhai o’r awgrymiadau uchod yn eich helpu i leihau eich defnydd o garbon a chwarae eich rhan i helpu’r amgylchedd. Efallai nad yw un person yn gostwng ei ddefnydd o garbon yn cael llawer o effaith, ond os yw pawb yn penderfynu gwneud y newidiadau bach yma, yna gallai wneud gwahaniaeth mawr.

    Erthyglau perthnasol

  4. 5 Peth Gallech Chi Ei Wneud i Helpu’r Ddaear

    Comments Off on 5 Peth Gallech Chi Ei Wneud i Helpu’r Ddaear

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan wirfoddolwr mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Mae yna sawl ffordd i helpu’r Ddaear. Mae rhai yn effeithlon, rhai ddim. Bwriad y blog yma yw dangos y ffyrdd fwyaf effeithlon i helpu’r Ddaear ynghyd â’r rhesymau pam bod y rhain yn effeithlon.

    Water tap for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    1. Bod yn ddifrifol am ddŵr

    Rydym yn defnyddio dŵr bob dydd, rhai yn defnyddio mwy nac eraill, ond ta waeth am hynny. Os oes dŵr yn gollwng rhywle yn eich tŷ yna trwsiwch hyn mor sydyn â phosib i atal colli dŵr a gwella’ch amgylchedd lleol.

    Peth hanfodol arall gallech chi ei wneud gyda’r dŵr yn eich cartref ydy diffodd unrhyw dapiau sydd ddim yn cael eu defnyddio. Er esiampl, mae rhai pobl yn gadael i’r tap redeg wrth iddynt frwsio eu dannedd – yn gwastraffu dŵr gallai roi i ddefnydd gwell.

    Awgrymiadau i arbed dŵr gan yr Energy Saving Trust

    smart tech 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    2. Gosod technoleg ‘smart’

    Mae gosod mesurydd ‘smart’ yn eich cartref yn caniatáu i chi gadw golwg ar yr ynni rydych chi’n ei ddefnyddio, a’i gost. Gallai weld faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio go iawn eich annog i wneud newidiadau a lleihau eich defnydd ynni. Mae mesurydd ‘smart’ yn cysylltu trwy’r cysylltiad Wi-Fi ac yn gyrru eich defnydd o ynni i’ch cyflenwr, sydd yn golygu nad oes rhaid i chi gyflwyno darlleniadau ynni eich hun. Mae hyn yn rhoi bil mwy cywir yn cyfrifo’r ynni rydych chi yn ei ddefnyddio go iawn, yn hytrach nag dyfalu.

    Mae gosod thermostat ‘smart’ yn gallu’ch helpu chi i gwtogi ar eich costau ynni. Mae’n caniatáu i chi reoli’r gwres yn eich tŷ trwy app ar eich ffôn; gallech chi fod yn y gwaith a chysylltu i’ch thermostat ‘smart’ i droi’r gwres i lawr gartref.

    Gwybodaeth bellach am fesuryddion a thechnoleg ‘smart’ – Energy Saving Trust.

    LED light 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    3. Bylbiau ynni effeithlon

    Mae pawb yn defnyddio bylbiau golau – ni fyddai’n bosib gweld y tu mewn hebddynt. Mae’n bosib helpu’r amgylchedd i ddefnyddio bylbiau golau LED yn hytrach nag bylbiau twngsten hen. Mae bylbiau golau LED yn llawer mwy effeithlon, yn gallu cael eu newid yn hawdd, yn parhau’n hirach ac yn goleuo’n fwy llachar hefyd!

    Mae’r goleuadau yn yr EVI wedi cael eu newid am rai LED diolch i arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Darganfyddwch fwy yma.

    solar panels for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    4. Gosod paneli solar

    Ffordd arall i gael ynni o’r haul ydy trwy osod paneli solar. Mae paneli solar yn cymryd gwres a golau o’r haul ac yn ei newid i ynni at ddefnydd bob dydd. Nid yw paneli solar yn cynhyrchu ynni yn y nos gan nad oes haul, ond mae’r ynni sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ystod y dydd yn cael ei storio mewn batri sydd yn cael ei ddefnyddio yn y nos neu os nad oes digon yna rydych chi’n gallu cael ynni o’r grid os oes angen. Mae unrhyw ynni solar sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn gallu cael ei werthu i’r grid, sydd yn gallu rhoi ychydig o arian i chi.

    Edrychwch ar y wybodaeth yma gan uSwitch am sut mae pŵer solar yn gweithio yn y DU.

    reusable water bottles for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    5. Ailgylchu ac ailddefnyddio

    Mae ailgylchu yn hanfodol os ydym am achub y ddaear. Mae ailgylchu yn defnyddio ynni yn ei hun, felly mae ail-ddefnyddio yn well os yn bosib. Mae yna ddau beth syml gellir ei wneud i gychwyn – ailddefnyddio poteli i yfed a gofyn i’r cyngor lleol ychwanegu mwy o finiau ailgylchu yn y dref fel bod y moroedd a chynefinoedd bywyd gwyllt lleol yn gallu aros yn ddiogel ac yn lân.

    Efallai byddech chi’n darganfod ychydig o syniadau i ailddefnyddio eitemau bob dydd o’r rhestr Canllaw Ailgylchu yma – fel defnyddio hen ddillad i greu clustogau neu roddi hen gartonau wyau i ysgolion.

    Erthyglau perthnasol:

  5. Defnyddio’r Awyr i Gynhesu’r EVI

    Comments Off on Defnyddio’r Awyr i Gynhesu’r EVI

    Read article in English

    Mewn oes pan mae arbed arian a bod yn ymwybodol o’ch ôl-troed carbon yn bwysicach nac erioed, mae Institiwt Glynebwy wedi cael gweddnewidiad egni effeithlon ei hun.

    Rydym eisoes wedi dweud wrthych am newid yr holl oleuadau yn yr adeilad hanesyddol yma i rai LED ar ôl derbyn arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Yn yr erthygl hon byddem yn egluro’r newidiadau sydd wedi digwydd i atal drafftiau a gwella’r system wres.

    Mae’r EVI yn lleoliad cymunedol hanesyddol Gradd II yn dyddio’n ôl i 1849. Mae’n cael ei redeg gan ProMo-Cymru Mae’n darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol. Mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector ac yn croesawu dros 5,000 o bobl bob mis.

    Wfft i’r drafftiau

    drysau'n cau Defnyddio'r Awyr i Gynhesu'r EVI
    Gosodwyd dyfeisiau newydd i gau’r drysau’n awtomatig

    Mae’n anochel bod drafft yn broblem mewn adeilad cyhoeddus, mawr, hanesyddol fel hyn, ac roedd yn broblem fawr pan ddaw at filiau ynni’r EVi. Roedd drysau yn cael eu cadw’n agored drwy’r adeg ac felly roedd angen mwy o egni i gynhesu ystafelloedd, roedd ystafelloedd gwag yn cael ei gynhesu pan nad oedd angen ac roedd tenantiaid yn defnyddio gwresogydd trydan i gynhesu ystafelloedd.

    Yn dilyn derbyn £32,523 o arian gan y cynllun ariannir gan y WCVA, penderfynom ddefnyddio peth o’r arian i geisio atal y drafftiau a gwella effeithiolrwydd egni’r adeilad.

    Gosodwyd dyfais ar bob drws i gau yn awtomatig a chafwyd rheolyddion awtomatig ar y rheiddiaduron, fel eu bod yn cynhesu dim ond pan fydd rhywun yn yr ystafell, yn arbed egni ar gynhesu ystafell wag yn ddiangen.

    “Nodwyd mai’r gegin a’r stiwdio recordio oedd yr ardaloedd gyda’r swm uchaf o ddefnydd ynni,” eglurai Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau yn yr EVI.

    “Felly gosodwyd mesurydd ynni a gweithredu i gywiro fel bod yr anghenion pŵer yn y gegin yn lleihau.”

    Aer oer ac ystafelloedd cynnes

    sychwyr aer oer - Defnyddio'r Awyr i Gynhesu'r EVI
    Mae defnyddio aer oer i sychu dwylo yn arbed egni

    Newidiwyd y sychwyr dwylo yn y toiledau i sychwyr-eco, sydd yn defnyddio aer oer yn hytrach nag aer cynnes. Dylid hyn leihau’r defnydd o ynni a’r defnydd o dyweli.

    “Roedd sawl un o’n tenantiaid a’r rhai oedd yn llogi’r adeilad yn defnyddio gwresogydd trydan i gynhesu ardaloedd oer o’r adeilad, bellach rydym wedi gosod gwresogyddion wal ynni effeithlon sydd yn sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd,” ychwanegai Samantha.

    “Mae’r gwresogyddion ar amserydd 10 munud ac yn amhrisiadwy i gael gwared ar fannau oer.”

    Defnyddio’r awyr i gynhesu!

    Daeth ProMo-Cymru yn gyfrifol am redeg yr adeilad hanesyddol yma dros 10 mlynedd yn ôl, yn ei achub o gael ei ddymchwel. Aeth yr adeilad drwy gyfnod mawr o adfywiad ac roedd effeithlonrwydd ynni yn bwysig iawn bryd hynny hefyd a gosodwyd dau bwmp gwres o’r awyr o’r radd flaenaf.

    Gosodwyd y pympiau 40kW gwres o’r awyr yng nghefn yr adeilad yn darparu gwres gradd isel. Roedd y rhain yn gweithio gyda’r rheiddiaduron haearn bwrw gwreiddiol yn ogystal â gosod SmartRads i gadw’r adeilad yn gynnes. Gosodwyd boeler nwy hefyd i fod yn gefn i’r pympiau mewn tywydd oer iawn.

    pympiau gwres Defnyddio'r Awyr i Gynhesu'r EVI
    Mae defnyddio aer oer i gynhesu’r adeilad hanesyddol yn arbed arian ac egni

    Problemau a datrysiadau

    Cafwyd archwiliad o’r pympiau gwres wrth i ni edrych ar wneud newidiadau effeithiolrwydd ynni pellach a darganfod nad oedd un yn gweithio. Roedd y pympiau wedi bod yn rhedeg ar amseroedd sylweddol gwahanol ar y cywasgyddion, roedd yna beipen cyddwysiad wedi’i blocio gyda hylif yn gollwng ac roedd y peipiau yn rhy fach ac wedi’u hinsiwleiddio’n wael. Roedd y pympiau hefyd yn gweithio ar 50 gradd, sydd yn ddrud i’w redeg, ac yn gyfrifol am 41% o ddefnydd ynni’r EVI.

    Ond nid oedd gan yr EVI arian i ddatrys y problemau yma a thrwsio’r pympiau gwres, ac felly roedd rhaid defnyddio’r boeler nwy wrth gefn yn y gaeaf. Roedd hyn yn achosi sbigyn yn y defnydd o ynni, tra bod y pympiau gwres aneffeithlon yn parhau i redeg a chynyddu defnydd ymhellach.

    “Daeth yr ateb gyda’r arian derbyniwyd drwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a chaniatawyd i’r gwaith fynd yn ei flaen,” meddai Samantha.

    “Unwaith eto, mae’r EVI yn cael ei gynhesu gan bympiau gwres ynni effeithlon yn y lle cyntaf.”


    Darllenwch ein herthygl arall yn edrych ar y newidiadau sydd wedi digwydd i’r goleuadau yn yr EVI i ostwng costau a dod yn fwy ynni effeithlon.

    Mae hwn yn brosiect wedi’i gefnogi gan y WCVA trwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.


    Os oes gennych ddiddordeb yn llogi cyfleusterau’r EVI yna cysylltwch i ddarganfod mwy.

  6. Effeithiolrwydd Ynni’r EVi: Goleuo Godidog

    Comments Off on Effeithiolrwydd Ynni’r EVi: Goleuo Godidog

    Read article in English

    Mae Institiwt Glynebwy wedi bod yn fwrlwm o weithgareddau’n ddiweddar wrth i waith effeithiolrwydd ynni ddigwydd yn yr adeilad diolch i arian gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sydd yn cael ei redeg gan y WCVA. Mae’r holl waith wedi dod i ben bellach a hoffem roi gwybod i chi am yr hyn sydd wedi cael ei wneud.

    goleuadau'r evi - nadolig cynaliadwy

    Mae’r EVI yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru. Rydym yn lleoliad cymunedol sydd yn garreg filltir, yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol. Mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector ac yn croesawu dros 5,000 o bobl bob mis.

    Un rhan o’r gwaith gostwng defnydd ynni yn yr adeilad hanesyddol yma oedd gwella’r goleuadau, a dyma fyddem yn edrych arno yn yr erthygl hon. Byddem hefyd yn edrych ar pam bod goleuadau LED yn syniad da i bob tŷ ac adeilad.

    Gwelliant Goleuo

    Roedd 21%* o ddefnydd ynni’r EVi yn cael ei ddefnyddio i gadw’r goleuadau ymlaen, swm uchel iawn. Mae’n adeilad mawr ac felly angen llawer o oleuadau! (*Canlyniadau adolygiad ynni gan REW)

    “Roedd y goleuadau yn hen ac yn aneffeithiol,” eglurai Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau yn yr EVi.

    “Roedd y tiwbiau fflworolau yn chwythu drwy’r adeg, rhai o’r tryledwyr wedi torri ac yn gorfod prynu bylbiau newydd drwy’r adeg.”

    Y brif neuadd yw’r ystafell fwyaf yn yr adeilad. Mae’r gofod wedi cael ei logi ar gyfer perfformiadau byw, cynadleddau, arddangosfeydd, partïon preifat, priodasau a mwy. Ond roedd dau set o oleuadau yn y neuadd yn ddiffygiol ac nid yw hyn yn creu argraff dda wrth geisio llogi’r ystafell i bobl! Ond roedd y gost o gael rhai newydd yn uchel, nid yn unig oherwydd y bylbiau arbenigol, ond roedd rhaid llogi sgaffald a galw trydanwyr arbenigol dro ar ôl tro i’w gosod.

    Llwyddiant Ariannu

    Roedd rhaid chwilio am ddatrysiad, ac roedd yr arian derbyniwyd gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi caniatáu hyn.

    “Defnyddiwyd peth o’r £32,523 i brynu goleuadau LED o’r radd flaenaf ar gyfer y neuadd,” meddai Samantha.

    Ac nid y neuadd yn unig sydd wedi cael goleuadau newydd. Mae holl oleuadau’r adeilad wedi cael eu newid i LED.

    Mae LED, sef Deuod Allyrru Golau, yn defnyddio hyd at 90% yn llai o ynni. Tra bod bwlb traddodiadol yn cynhyrchu llawer o wres er mwyn cynhyrchu golau, mae LED yn defnyddio llawer llai o wres i wneud yr un peth, ac felly mae’n llawer fwy ynni effeithlon.

    Mae goleuadau yn gallu cyfrif am hyd at 20% o’ch biliau ynni felly mae posib creu arbedion sylweddol wrth newid i LED. Maent yn parhau’n hirach hefyd, tua 20 gwaith yn hirach nag bwlb golau traddodiadol, felly nid oes rhaid mynd allan i brynu bylbiau a’u newid drwy’r adeg. Bonws arall ydy bod bylbiau LED yn gallu cael eu hailgylchu, gan nad ydynt yn cynnwys mercwri fel rhai bylbiau hŷn.

    Y newyddion da i unrhyw un sydd yn ystyried newid i LED ydy bod gostyngiad mawr wedi bod yn y pris ers iddynt ddod allan i gychwyn, ac nid sbotolau yn unig chwaith. Bellach mae yna amrywiaeth eang ar gael, fel bayonet, sgriw neu oleuadau strip hyd yn oed. (*Ffynhonnell gwybodaeth: 7 Reasons Why You Should Swap To LED Lighting – thegreenage.co.uk)


    Cadwch olwg allan am yr erthyglau nesaf fydd yn edrych ar y gwaith gwelliannau drafft a gwres yn yr EVi.

    Mae hwn yn brosiect wedi’i gefnogi gan y WCVA trwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Os oes gennych ddiddordeb yn llogi cyfleusterau’r EVI yna cysylltwch i ddarganfod mwy.

  7. Cynyddu Effeithiolrwydd Ynni’r EVI

    Comments Off on Cynyddu Effeithiolrwydd Ynni’r EVI

    English article here

    Mae Institiwt Glynebwy yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid o £32,523 gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hwn yn rhaglen gyllido Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei redeg gan WCVA.

    Bwriedir gwella effeithiolrwydd ynni’r EVi gan gynyddu’r fioamrywiaeth leol a chynnwys y gymuned gyda gwirfoddoli a rhannu’r hyn dysgwyd.

    Yr EVi

    Mae’r EVi yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru. Rydym yn lleoliad cymunedol sydd yn garreg filltir, yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol. Mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector gan gynnwys Barnardo’s, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent, Llamau, Leeders Vale, Gyrfa Cymru a Learn About Us.

    Mae dros 5,000 o bobl yn ymweld â’r EVi bob mis, gydag amrywiaeth eang o ddefnyddiau a defnyddwyr i’r adeilad cymunedol yma. Bydd lleihau’r defnydd o egni mewn adeilad mor fawr yn creu arbedion sylweddol, ac yn helpu gostwng ein hôl troed carbon.

    EVi outside for Energy Efficiency article

    Gwella’r adeilad

    Eleni mae’r EVi yn dathlu 170 mlynedd. Mae dros degawd ers i ProMo-Cymru ddechrau rhedeg yr adeilad. Pan symudwyd i mewn i’r adeilad yn wreiddiol, gwyddom fod angen llawer o waith i wella ffabrig yr adeilad. Cychwynnodd y gwaith gyda’r dyfodol mewn meddwl. Gosodwyd dau bwmp gwres ddaear o’r radd flaenaf i gynhyrchu gwres mwy effeithlon. Diolch i’r gronfa hon, byddem yn gweithredu nifer o nodweddion arbed egni eraill cyn hir. Byddem yn cynnwys y gymuned fel gwirfoddolwyr i helpu cynyddu bioamrywiaeth o amgylch yr adeilad.

    Efallai nad yw effeithiolrwydd ynni ac arbed arian yn swnio’n gyffrous iawn i’r rhai sydd yn defnyddio’r adeilad, ond mae’n bwysig iawn i bopeth sydd yn digwydd yn yr EVi. Mae’r gwaith tu ôl i’r llenni yma yn caniatáu i’r EVi barhau i gefnogi’r gymuned leol. Dros y flwyddyn nesaf byddem yn gofyn i’r gwirfoddolwyr a’r staff yn yr EVi i rannu barn am pam bod yr EVi yn le mor arbennig i weithio a chwarae. Rydym yn gyffrous iawn hefyd i gael y bobl ifanc sydd yn defnyddio’r adeilad i rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Byddem yn darlledu popeth dros ein sianeli digidol. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael gweld y gwaith mae ProMo-Cymru a’r gymuned yn ei wneud i ddatblygu cynaladwyedd yng Nglynebwy.


    Mae hwn yn brosiect wedi’i gefnogi gan y WCVA trwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Os hoffech wybodaeth bellach am logi’r cyfleusterau’r EVi yna cysylltwch i ddarganfod mwy.

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy