EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Tag Archive: ailgylchu

  1. Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    Comments Off on Dathliadau Nadolig a Chynaladwyedd

    English article here

    Gwahoddwyd teuluoedd Glynebwy i ddigwyddiad Dathlu Nadoligaidd yn yr EVI yn ddiweddar. Roeddem yn nodi diwedd prosiect cynaladwyedd blwyddyn o hyd, yn gwella effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad hanesyddol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr o’r gymuned.

    Yn fis Rhagfyr 2019 derbyniodd yr EVI £32.523 o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei reoli gan CGGC. Dros y flwyddyn rydym wedi gwella’r gwresogi a’r goleuadau yn yr EVI, wedi cynnal gweithdy Llygredd Plastig gyda phobl ifanc, creu paradwys trychfilod yn yr ardd o flaen yr adeilad yn ystod gweithdy garddio bywyd gwyllt, wedi hyfforddi gwirfoddolwyr mewn ysgrifennu blogiau a chreu fideos gan greu banc o erthyglau ar ein gwefan, ac yn olaf, dathliad Nadolig mawr gyda thwist cynaliadwy.

    Gwahoddiad i ddathlu

    Ymestynnwyd gwahoddiad i bobl y gymuned i ddod i ymuno gyda ni ar ddiwedd mis Tachwedd i ddathlu Nadolig cynaliadwy gyda bwyd a disgo pŵer pedal i’r plant, gwin poeth a mins pei i’r rhieni, a gweithdai yn creu nwyddau Nadolig o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu.

    Roedd 100 o lefydd ar gael, a llenwyd y rhain yn sydyn iawn. Darparwyd adloniant gan U3A (University of the Third Age) fu’n canu ac yn cynnal gweithgareddau canu i’r plant. Roedd y bwyd yn llwyddiant mawr, a phob briwsyn wedi’i fwyta, dim gwastraff o gwbl!

    Pweru parti

    Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r disgo pŵer pedal, a’r dyn eira, gyda’r plant yn cadw’r gerddoriaeth i fynd, y dyn eira llawn aer a goleuadau’r goeden Nadolig i fflachio drwy’r nos. Pŵer y bobl!

    Roedd y gweithdai yn boblogaidd iawn, gyda phawb yn cymryd rhan. Roedd pobl wrth eu boddau yn cael creu’r coed Nadolig a’r bôbls allan o froc môr a hen baledi, dysgu ychydig o pyrograffeg a chael mynd â’r rhain gartref gyda nhw.

    Daeth dau o’r gwirfoddolwyr fu’n rhan o’n hyfforddiant ysgrifennu blog draw i helpu. Roedd Jamie Lee a Victoria yn gymorth mawr gyda’r gweithdai ac roeddem wrth ein boddau cael clywed sut roedd erthygl Jamie Lee, Plannu Coed i Achub y Byd, wedi’u hysbrydoli i blannu coed mewn coedwig gwarchodfa.

    Addewid i fod yn wyrddach

    Daeth adran ailgylchu a gwastraff Cyngor Blaenau Gwent draw i roi gwybodaeth a chyngor am gasgliadau ailgylchu wythnosol.

    Daeth dysgwyr Llamau (fu’n cymryd rhan yn rhai o’n gweithdai) draw hefyd gydag arddangosfa ryngweithiol. Roeddent yn gofyn i bobl i wneud addewidion ar gyfer Nadolig cynaliadwy ac i helpu’r amgylchedd.

    Cafodd y dysgwyr amser da iawn yn gweithio â’i gilydd i greu’r byrddau arddangos, a dysgodd pawb rywbeth newydd am gynaladwyedd, a gobeithio bydd y negeseuon yma yn cael eu rhannu.” meddai tiwtor Learning 4 Life Llamau.

    Cafwyd addewidion gwych ar y goeden addewidion. Dyma ychydig ohonynt:

    • – Defnyddio bagiau cotwm i siopa
    • – Addo ceisio defnyddio’r swm lleiaf o blastig bosib
    • – Lapio anrhegion Nadolig mewn papur newydd!
    • – Ailgylchu cymaint ag sy’n bosib
    • – Clirio plastig oddi ar y traeth

    Roedd Llamau yn cymryd archebion am glecars ‘Dolig di-blastig ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol am ffyrdd cyfeillgar i’r amgylchedd i lapio anrhegion.

    Nid dyma’r diwedd

    Roedd Samantha James, Cydlynydd Gweithrediadau’r EVI, wrth ei bodd gyda llwyddiant y digwyddiad ac yn meddwl mai dyma oedd y ffordd berffaith i gloi’r prosiect blwyddyn.

    “Rydym wedi cyrraedd pen taith y prosiect hwn, ac wedi cyflawni cymaint yma yn yr EVI,” meddai.

    “Rydym wedi helpu codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a materion amgylcheddol ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn integrol i hyn. Maent wedi helpu gyda’r ymgyrch cyfathrebu. Ar ôl derbyn hyfforddiant mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i helpu prosiectau amgylcheddol eraill. Roedd y digwyddiad Nadolig yn ffordd berffaith i derfyn pethau, wrth gynnwys y gymuned gyfan yn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yma.”

    Ac nid dyma ddiwedd y daith i’r gwaith cynaladwyedd yn yr EVI meddai Sam.

    “Dim ond megis cychwyn mae’r gwaith i greu EVI mwy cynaliadwy a gwyrddach. Rydym wedi dysgu llawer o wybodaeth a  sgiliau newydd ar hyd y daith ac yn awyddus i barhau’r gwaith yma”.

  2. Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    Comments Off on Ymunwch â Ni i Ddathlu Nadolig Cynaliadwy

    English article here

    Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae yna lawer wedi bod yn digwydd yn yr EVI i wella cynaladwyedd yr adeilad a’r ardal gyfagos. Wrth i ni gyrraedd diwedd y cyfnod yma o’n gyriad cynaladwyedd arbennig rydym yn gwahodd trigolion Glynebwy i ymuno â ni mewn dathliad Nadoligaidd a chreu addurniadau sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

    Ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd rydym yn gwahodd holl aelodau ein cymuned i ymuno gyda ni rhwng 4yp a 7yh ar gyfer ein digwyddiad Hwyl yr Ŵyl i’r teulu. Bydd yna ddisgo pŵer pedal, bwffe i’r plant a gwydriad o win poeth a mins pei i’r rhieni. Byddem hefyd yn cynnal gweithdai ailgylchu hwyl yn creu coed Nadolig o froc môr a bôbls Nadolig… a hyn i gyd AM DDIM.

    Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal i ddathlu diwedd ein prosiect cynaliadwy sydd wedi bod yn rhedeg dros yr ychydig fisoedd nesaf gyda £32,523 o ariannu gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Mae’r EVI wedi bod yn fwrlwm o weithgareddau fel rhan o’r prosiect hwn.

    Goleuadau Godidog

    Y peth cyntaf i’w wneud oedd ceisio lleihau’r defnydd o ynni yn yr EVI. Roedd adolygiad ynni’r EVI eisoes wedi’i gyflawni ac yn amlygu’r ardaloedd yn yr adeilad oedd yn gwastraffu ynni fwyaf. Roedd yr arian derbyniodd yr EVI yn caniatáu i ni gyflawni’r gwelliannau awgrymwyd yn yr adroddiad adolygiad ynni. Roedd goleuadau yn wastraff ynni mawr, felly defnyddiwyd peth o’r arian i newid y goleuadau i gyd i rai LED, sydd yn defnyddio 90% llai o ynni. Gosodwyd sychwyr dwylo eco newydd yn y toiledau hefyd, sydd yn defnyddio aer oer yn hytrach na phoeth.

    Roedd drafftiau a gwres yn broblem yn yr adeilad mawr, hanesyddol yma. Rhai o’r problemau mwyaf oedd drysau’n cael eu cadw’n agored, gwresogi ystafelloedd gwag a defnyddio gwresogyddion trydan drud. Cafodd hyn ei ddatrys wrth osod dyfais cau drws awtomatig ar y drysau i gyd, rheolyddion awtomatig ar y rheiddiaduron a mesurwyr ynni. Cafwyd gwared ar y gwresogyddion trydan cludadwy a gosod gwresogyddion wal ynni effeithlon newydd gydag amserydd 10 munud. Roedd y pympiau gwres o’r awyr, gosodwyd pan adferwyd yr adeilad dros ddegawd yn ôl, angen eu trwsio gan am eu bod yn aneffeithlon bellach. Yn y gaeaf roedd rhaid defnyddio’r boeler nwy wrth gefn i gynhesu’r adeilad. Caniataodd yr ariannu yma i ni drwsio’r pympiau, ac felly gallem unwaith eto wresogi’r EVI gyda’r pympiau ynni effeithlon ran amlaf.

    Bug Houses/Tai trychfilod - a Sustainable Christmas - nadolig cynaliadwy

    Ysbrydoli’r Gymuned

    Fel rhan o’n prosiect cynaladwyedd roeddem yn awyddus i gynnwys y gymuned wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant. Y bwriad oedd dysgu sgiliau a hysbysu’r cyhoedd am gynaladwyedd a’r hyn gallant ei wneud. Yn fis Ebrill cynhaliwyd gweithdy llygredd plastig yn yr EVI ar gyfer Diwrnod y Ddaear. Rhannom wybodaeth am gyffredinrwydd plastig yn ein bywydau a’r hyn gellir ei wneud i leihau hyn.

    Yn fis Mehefin cynhaliwyd gweithdy garddio bywyd gwyllt gyda Eggseeds i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal. Bu’r gwirfoddolwyr ifanc yn adeiladu sawl gwesty trychfilod a bomiau hadau. Mae’r gwestai trychfilod lliwgar yn sefyll yn falch o flaen yr EVI.

    Grym mewn Gwybodaeth

    Rhan bwysig o’r prosiect i ni ydy annog pobl yn yr ardal i’n helpu i rannu’r neges cynaladwyedd. Rhoddwyd gwahoddiad i’r rhai oedd â diddordeb helpu rhannu’r neges i fynychu dwy sesiwn hyfforddiant gwahanol. Roedd y cyntaf yn weithdy blogio a chreu fideo. Dysgwyd sgiliau cynllunio a chreu fideo eu hunain. Er mai dim ond diwrnod oedd ganddynt i wneud popeth, llwyddwyd i greu’r fideo canlynol hefyd, yn dangos yr holl waith oedd wedi bod yn digwydd yn yr EVI hyd yma.

    Roedd yr ail sesiwn yn weithdy ysgrifennu blogiau. Dewisodd y mynychwyr bwnc oedd o ddiddordeb iddynt a chreu sawl erthygl yn hyrwyddo’r neges cynaladwyedd ac effeithiolrwydd ynni. Roedd yr erthyglau yn cynnwys sut i leihau’n defnydd o garbon, plannu coed, te cynaliadwy a mwy. Mae’r erthyglau yma i gyd wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan yr EVI. Mae’r rhestr lawn i’w weld yn yr Erthyglau Perthnasol isod.

    Ymunwch â ni

    Mae’r digwyddiad Hwyl yr Ŵyl yn ffordd o ddathlu’r holl waith sydd wedi’i gyflawni ac i barhau i rannu’r neges cynaladwyedd mewn ffordd hwyl wrth greu addurniadau Nadolig i fynd adref gyda chi. Felly i ailadrodd – disgo pŵer pedal, bwffe, gwin poeth a mins peis – a glywsoch chi ei fod yn rhad ac AM DDIM? Ymunwch â ni i ddathlu a chreu gan gofrestru’ch diddordeb yma:

    https://evi.cymru/classes/hwyl-nadoligaidd-am-ddim-ir-teulu/

    Erthyglau perthnasol:


  3. Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    Comments Off on Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Thomas Morris mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Braf yw meddwl bod trwsio ein hamgylchedd anniben yn broblem i rywun arall. Ond mae gan bawb gyfrifioldeb i ddangos i’r rhai sydd mewn grym ein bod eisiau gofalu am ddyfodol bodolaeth ein planed a’r dynol ryw. Byddaf yn dangos ffyrdd hawdd i leihau carbon yn eich bywyd bob dydd.

    Rolls of material for cutting carbon article

    Gwisg y dydd – bob dydd

    Yn ôl pob sôn, mae yna rai pobl sydd yn gwisgo gwisg unwaith yn unig! O ystyried y swm enfawr o ynni ac adnoddau defnyddir gan y diwydiant tecstilau, mae hyn yn syniad ofnadwy! Meddyliwch am yr arian sydd yn cael ei wastraffu wrth ddefnyddio rhywbeth unwaith. Ail-wisgwch eich dillad i gyd. Edrychwch yn steilus bob dydd a gyrru neges i ffasiwn sydyn – mae’n hen bryd i hyn stopio!

    Symud yn fwy gwyrdd

    Mae yna sawl ffordd i deithio o ddydd i ddydd yn wyrdd. Y peth da am wyrddeiddio eich trafnidiaeth ydy bod hyn yn gwella’r amgylchedd lleol yn ogystal â byd eang. Ond, efallai bydd hi’n dipyn o her yn nhermau’r wleidyddiaeth.

    • – Defnyddiwch eich car llai wrth ddefnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth pan fyddech chi’n teithio eich hun.
    • – Wrth feddwl am symud tŷ, rhaid ystyried potensial trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth weithgar eich lleoliad. Dywedwch wrth ddatblygwyr tai na fyddech chi’n prynu tŷ os nad yw’n agos i orsaf trenau.
    • – Ysgrifennwch i gwmnïau rheilffordd i ofyn am fwy o barcio i feiciau mewn gorsafoedd rheilffordd, a pharcio gwell.
    • – Yn hytrach nag prynu ail gar, gallech chi ystyried beic trydan.
    • – Addysgwch eich ffrindiau e.e. oeddech chi’n ymwybodol nad yw ceir hybrid mor gyfeillgar i’r amgylchedd ag y mae’r hysbysebwyr yn ceisio dweud? Mae llawer yn achosi mwy o lygredd na cheir petrol (ond nid disel)
    • – Yn hytrach na phrynu car eich hun, gallech chi ystyried ymuno â chlwb rhannu ceir am y cyfnodau pan fyddech chi angen car
    • – Gofynnwch i’r Llywodraeth i roi mwy o gymhorthdal i deithio cyhoeddus ac actif , yn fwy nag y maent yn cymorthdalu teithio car preifat gyda thanwydd rhad, parcio am ddim ayb yn bresennol.
    • – Gweithio i greu strydoedd a threfi y gellir byw a cherdded ynddynt – os yw’n trefi genedigol yn iwtopaidd, yna ni fydd angen cymaint o wyliau a bydd llai yn hedfan.

    Newid i dariff ynni gwyrdd

    Er bod holl ynni’r Grid Cenedlaethol wedi cymysgu â’i gilydd (nid oes posib gwybod os yw’n dod o ynni glo neu wynt) gallech chi ddewis talu eich biliau i gwmni ynni sydd yn darparu ynni i’r grid o ffynonellau cynaliadwy yn unig.

    Newid i LED a ffenestri dwbl

    Ond nid os ydych chi wedi newid eich goleuadau a’ch ffenestri yn ddiweddar. Bydd hyn yn arbed arian. Dyma sydd wedi bod yn digwydd yn yr EVI yn ddiweddar gydag arian o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Gwyliau Gartref

    Ceisiwch lynu at un daith awyren y flwyddyn os yn bosib. Mae’n debyg nad ydych chi wedi ymweld â llawer iawn lefydd yn y DU. Beth am ystyried taith amlfodd beic-ar-drên i chi’ch hun, neu bacio’r car a mynd i rywle newydd gyda’r teulu i gyd.

    Ni fyddech yn cyfrannu at erydiad llefydd enwog fel Fenis oherwydd twristiaeth, a byddech yn gwario’ch arian ar economïau lleol Prydeinig sydd yn aml yn dioddef.

    Dihatru a boicotio tanwydd ffosil

    Peidiwch roi arian i fanciau sydd yn buddsoddi mewn olew. Gofynnwch i’ch ysgol, cwmni ayb i dynnu stociau allan o olew. Gofynnwch beth mae eich pensiwn yn buddsoddi ynddo.

    Paratoi wrth siopa

    Os ydych chi’n ceisio lleihau eich gwastraff plastig, bydd angen i chi baratoi cyn mynd i siopa. Gallwch chi gario bocsys a jariau i’r siop i brynu pethau rhydd a’u cadw’n lân. Efallai byddech chi’n gwario llai hefyd wrth brynu’r pethau rydych chi eu hangen yn unig.

    Er mwyn lleihau eich teithiau yn y car ymhellach dylech chi feddwl beicio i’r siop neu brynu ar-lein. Gall busnesau ystyried cael beic llwyth yn rhatach trwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

    Bwyta’n lleol a bwyta llai o gig

    Un o’r bwydydd sydd yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr uchel yw cig eidion. Mae bwyta llai o gigoedd fel cig eidion, cig oen a phorc yn ffordd dda i leihau’ch ôl troed carbon.

    Ond os yw’r holl fwydydd ffres yn cael ei hedfan o dramor yna mae byw ar ddiet fegan yn gallu bod yn ddrud iawn i’r Ddaear hefyd . Chwiliwch am fwyd sydd yn cael ei dyfu ym Mhrydain, neu Ewrop o leiaf – efallai bydd angen mabwysiadu diet mwy tymhorol.

    Dysgu pobl sut i ailgylchu’n well

    Helpwch y bobl o’ch cwmpas i ailgylchu’n well. Os ydych chi’n eu hadnabod yn dda yna byddech chi’n deall sut i gael ar yr ochr dda ohonynt!

    Gadael y peiriant torri lawnt i rydu

    Gallech chi wella bioamrywiaeth leol wrth adael i’ch gardd dyfu’n wyllt – peidiwch torri’r lawnt. Dyma pam:

    • – Mae’r mwyafrif o beiriannau torri lawnt yn gweithio gyda phetrol neu drydan, felly bydd hyn yn defnyddio llai o danwydd ffosil.
    • – Byddech chi’n cyfrannu at fioamrywiaeth leol. Mewn dinasoedd modern bydd gwenyn, glöyn byw a llawer o drychfilod eraill yn chwilio am le i nythu. Bydd eich gardd o hyfrydwch – yn hytrach nag darn o lawnt ddiflas wedi’i dorri – yn cynnig cartref clud iddynt.
    • – Mae gadael i’r ardd dyfu’n wyllt yn helpu’r blaned ond mae’n ymddwyn fel sinc carbon lleol hefyd.
    • – Defnyddiwch fomiau hadau i blannu blodau gwyllt a chael pwll bach – efallai gallech chi ddefnyddio hen deiar a tharpolin i greu ardal wlyb i drychfilod. Fe wnaethom hyn yr EVI yn ein gweithdai bomiau blodau a thrychfilod.

    Felly dyna chi, gobeithio bod rhai o’r awgrymiadau uchod yn eich helpu i leihau eich defnydd o garbon a chwarae eich rhan i helpu’r amgylchedd. Efallai nad yw un person yn gostwng ei ddefnydd o garbon yn cael llawer o effaith, ond os yw pawb yn penderfynu gwneud y newidiadau bach yma, yna gallai wneud gwahaniaeth mawr.

    Erthyglau perthnasol

  4. 5 Peth Gallech Chi Ei Wneud i Helpu’r Ddaear

    Comments Off on 5 Peth Gallech Chi Ei Wneud i Helpu’r Ddaear

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan wirfoddolwr mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Mae yna sawl ffordd i helpu’r Ddaear. Mae rhai yn effeithlon, rhai ddim. Bwriad y blog yma yw dangos y ffyrdd fwyaf effeithlon i helpu’r Ddaear ynghyd â’r rhesymau pam bod y rhain yn effeithlon.

    Water tap for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    1. Bod yn ddifrifol am ddŵr

    Rydym yn defnyddio dŵr bob dydd, rhai yn defnyddio mwy nac eraill, ond ta waeth am hynny. Os oes dŵr yn gollwng rhywle yn eich tŷ yna trwsiwch hyn mor sydyn â phosib i atal colli dŵr a gwella’ch amgylchedd lleol.

    Peth hanfodol arall gallech chi ei wneud gyda’r dŵr yn eich cartref ydy diffodd unrhyw dapiau sydd ddim yn cael eu defnyddio. Er esiampl, mae rhai pobl yn gadael i’r tap redeg wrth iddynt frwsio eu dannedd – yn gwastraffu dŵr gallai roi i ddefnydd gwell.

    Awgrymiadau i arbed dŵr gan yr Energy Saving Trust

    smart tech 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    2. Gosod technoleg ‘smart’

    Mae gosod mesurydd ‘smart’ yn eich cartref yn caniatáu i chi gadw golwg ar yr ynni rydych chi’n ei ddefnyddio, a’i gost. Gallai weld faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio go iawn eich annog i wneud newidiadau a lleihau eich defnydd ynni. Mae mesurydd ‘smart’ yn cysylltu trwy’r cysylltiad Wi-Fi ac yn gyrru eich defnydd o ynni i’ch cyflenwr, sydd yn golygu nad oes rhaid i chi gyflwyno darlleniadau ynni eich hun. Mae hyn yn rhoi bil mwy cywir yn cyfrifo’r ynni rydych chi yn ei ddefnyddio go iawn, yn hytrach nag dyfalu.

    Mae gosod thermostat ‘smart’ yn gallu’ch helpu chi i gwtogi ar eich costau ynni. Mae’n caniatáu i chi reoli’r gwres yn eich tŷ trwy app ar eich ffôn; gallech chi fod yn y gwaith a chysylltu i’ch thermostat ‘smart’ i droi’r gwres i lawr gartref.

    Gwybodaeth bellach am fesuryddion a thechnoleg ‘smart’ – Energy Saving Trust.

    LED light 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    3. Bylbiau ynni effeithlon

    Mae pawb yn defnyddio bylbiau golau – ni fyddai’n bosib gweld y tu mewn hebddynt. Mae’n bosib helpu’r amgylchedd i ddefnyddio bylbiau golau LED yn hytrach nag bylbiau twngsten hen. Mae bylbiau golau LED yn llawer mwy effeithlon, yn gallu cael eu newid yn hawdd, yn parhau’n hirach ac yn goleuo’n fwy llachar hefyd!

    Mae’r goleuadau yn yr EVI wedi cael eu newid am rai LED diolch i arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Darganfyddwch fwy yma.

    solar panels for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    4. Gosod paneli solar

    Ffordd arall i gael ynni o’r haul ydy trwy osod paneli solar. Mae paneli solar yn cymryd gwres a golau o’r haul ac yn ei newid i ynni at ddefnydd bob dydd. Nid yw paneli solar yn cynhyrchu ynni yn y nos gan nad oes haul, ond mae’r ynni sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ystod y dydd yn cael ei storio mewn batri sydd yn cael ei ddefnyddio yn y nos neu os nad oes digon yna rydych chi’n gallu cael ynni o’r grid os oes angen. Mae unrhyw ynni solar sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn gallu cael ei werthu i’r grid, sydd yn gallu rhoi ychydig o arian i chi.

    Edrychwch ar y wybodaeth yma gan uSwitch am sut mae pŵer solar yn gweithio yn y DU.

    reusable water bottles for 5 Things You Can Do To Help The Earth article

    5. Ailgylchu ac ailddefnyddio

    Mae ailgylchu yn hanfodol os ydym am achub y ddaear. Mae ailgylchu yn defnyddio ynni yn ei hun, felly mae ail-ddefnyddio yn well os yn bosib. Mae yna ddau beth syml gellir ei wneud i gychwyn – ailddefnyddio poteli i yfed a gofyn i’r cyngor lleol ychwanegu mwy o finiau ailgylchu yn y dref fel bod y moroedd a chynefinoedd bywyd gwyllt lleol yn gallu aros yn ddiogel ac yn lân.

    Efallai byddech chi’n darganfod ychydig o syniadau i ailddefnyddio eitemau bob dydd o’r rhestr Canllaw Ailgylchu yma – fel defnyddio hen ddillad i greu clustogau neu roddi hen gartonau wyau i ysgolion.

    Erthyglau perthnasol:

  5. Taclo Llygredd Plastig yn yr EVI

    Comments Off on Taclo Llygredd Plastig yn yr EVI

    English article here

    Mae ‘cynaladwyedd’ i’w weld ym mhobman ar y funud, ac mae Institiwt Glynebwy yn hapus i fod yn cyfrannu at hyn gyda’i yriant cynaladwyedd cyfredol yn yr adeilad, ac yn y gymuned. Yn ôl yn fis Ebrill bu Llamau, elusen ddigartrefedd yng Nghymru, yn cynnal gweithdy llygredd plastig ar gyfer Diwrnod y Ddaear.

    Mae Laura Wheeler o Llamau, oedd yn cyflwyno’r gweithdy, yn angerddol iawn yn bersonol am lygredd plastig. Cychwynnodd Laura wrth ddangos delweddau brawychus o lygredd plastig i’r bobl ifanc, fel adar a bywyd gwyllt y môr yn cael eu mygu gan y rwbel plastig, neu bysgotwyr yn hwylio trwy’r riff gwenwynig. Yna, gofynnodd sut roedd hynny yn gwneud iddynt deimlo.

    Sut mae llygredd plastig yn gwneud i ti deimlo?

    “Yn sâl”, oedd ateb un.

    “Trist”, meddai rhywun arall.

    “Euog. Isel. Cywilydd. Sioc. Ffieidd-dod.”

    Mae’n glir nad yw neb yn falch o’r effaith mae angen pobl am blastig wedi ei gael ar foroedd y blaned. Ond sut mae hyn yn effeithio arnom ni?

    Plastig, plastig, ym mhobman

    Roedd yn amser meddwl am gyffredinrwydd plastig ym mhob agwedd o’n bywydau. Mae yna micro-ddarnau o blastig mewn cynnyrch gofal croen a phlastig mewn dillad polyester. Mae pethau sydd wedi’u creu o gerdyn, gwydr neu bren yn gallu cael darnau bach ychwanegol o blastig ynddynt. Pan fyddech chi’n golchi dillad synthetig mae darnau bach, bach o micro-ffibr plastig yn mynd i’r cyflenwad dŵr. Mae’r pysgod yn bwyta’r plastig yma ac yna rydym ni’n bwyta’r pysgod. Edrychwyd ar offer meddygol hefyd, fel pympiau asthma, diferion, pigiadau ac ati. Cytunwyd bod y rhain yn eithriad buddiol.

    Bu’r grŵp yn ystyried y dadansoddiad cost a budd o leihau’r defnydd o blastig. Mae’r oedolyn arferol yn prynu tair potel dŵr plastig yr wythnos. Os ydym yn talu am fotel gellir ei ail-ddefnyddio, pa mor hir nes y byddem wedi adennill y buddsoddiad yma? Ond pan rydych chi ar gyllideb dynn, mae’r gost gychwynnol yn gallu atal pobl yn anffodus. A ddylai’r llywodraeth a’r corfforaethau mawr fod yn gwneud pethau’n haws i unigolion fedru gwneud dewisiadau cynaliadwy?

    Gwneud gwahaniaeth

    Soniodd un mynychwr bod ei brawd yn mynd i’r archfarchnad weithiau ac yn gadael yr holl ddeunydd pacio plastig ar y ddesg talu. Wrth drafod hyn fel grŵp, penderfynwyd bod hyn yn achosi anhwylustod i’r gweithwyr yn yr archfarchnad a’r neges yn annhebygol o gyrraedd y rheolwyr uwch neu’r cyflenwyr.

    Dangosodd Laura ychydig o bethau oedd yn ddewis gwahanol i blastig. Er esiampl, wrth wneud brechdanau, mae’n eu lapio mewn defnydd cŵyr gwenyn yn hytrach nag ‘cling film’. Gallech chi ddefnyddio defnydd cŵyr gwenyn fel caead ar jariau hefyd – ei osod ar y top a bydd gwres eich llaw yn cau’r bwlch aer. Mae’n wrthfacteria, yn ddiwenwyn, ac yn gwbl fioddiraddadwy hefyd wrth gwrs. Mae posib creu hwn eich hun adref os hoffech.

    Yna dangosodd Laura lwyth o gynnyrch sydd yn rhydd o ddeunydd pacio a phlastig, o sgrwb corff i siampŵ, un o’r ffyrdd hawsaf i leihau plastig yn ein bywydau yn sylweddol.

    Un awgrym olaf gan Laura: os oes rhaid prynu rhywbeth mewn potel blastig, prynwch mewn poteli mwy ac/neu ei brynu’n ddwys (concentrate), ac felly’n lleihau eich defnydd o blastig.

    Ar y cyfan, roedd hwn yn sesiwn lwyddiannus iawn yn meddwl pa gamau bychan gellir ei gymryd i wella ein hymarferion cynaladwyedd.

    Mae’r EVI wedi bod yn gwella cynaladwyedd yr adeilad ac yn cynnal gweithdai cynaladwyedd fel rhan o brosiect sydd yn cael ei gefnogi gan WCVA, diolch i arian gan y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rydym wedi cwblhau gwaith i wella’r pympiau gwres o’r awyr a’r goleuadau yn yr EVI.

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy