5 Cam i Fyw Bywyd Mwy Cynaliadwy
Comments Off on 5 Cam i Fyw Bywyd Mwy CynaliadwyYsgrifennwyd yr erthygl hon gan wirfoddolwr mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.
Yn 2019, oherwydd tyfiant cyflym yn y boblogaeth a threfoli, disgwylir bydd cynhyrchiad gwastraff blynyddol yn cynyddu 70% o lefelau 2016 i 3.40 biliwn tunnell yn 2050.
Ond mae’n gyfnod gwahanol nawr ac mae pobl wedi darganfod ffyrdd newydd anhygoel i gynnal y bywyd rydym yn ei fyw ac efallai bydd yn newid dyfodol dynoliaeth.
Plastig
Mae llygredd plastig yn bryder mawr, yn llygru ein moroedd a niweidio bywyd gwyllt. Ond mae dylanwadwyr mawr fel y YouTuber Jeffree Star ac enwogion eraill wedi dod yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae Star wedi creu gwelltyn metel sydd yn gallu cael ei ailddefnyddio ac yn ecogyfeillgar (o gymharu â gwelltyn plastig, sydd ddim yn gallu cael ei ailddefnyddio).
Gwresogi
Wrth ddefnyddio’r system gwresogi yn ein cartref, rydym yn cynyddu’r defnydd o danwydd ffosil a nwyon tŷ gwydr. Mae gan y mwyafrif o bobl systemau gwres canolog yn eu cartref sydd yn cael ei ddefnyddio trwy gydol y dydd. Gall pawb ddefnyddio llai o wres wrth lapio’n gynnes a gwisgo mwy o ddillad.
Trafnidiaeth
Yn 2019 amcangyfrif bydd dros 79 miliwn o geir wedi’u gwerthu. Er bod gan lawer o bobl gar, maent yn defnyddio llawer iawn o garbon yn y broses cynhyrchu yn ogystal â gyrru. Mae mwy a mwy o bobl yn arloesol pan ddaw at drafnidiaeth weithredol, fel beicio a cherdded. Mae ceir yn fwy cynorthwyol mewn sefyllfaoedd ble mae pobl yn teithio pellteroedd hir. Mae yna restr ddefnyddiol o lwybrau beicio yng Nglynebwy ar RouteYou.com.
Materoliaeth
Mae’r cyfnod wedi newid, ac yn ôl ymchwil, mae profiadau yn gwneud rhywun yn hapusach yn hirach nag y mae pethau materyddol, sydd ag ystyr cyfyngedig fel arfer. Y tro nesaf rydych chi eisiau dangos i rywun pa mor bwysig ydynt i chi, rhowch eich amser iddynt, a phrofiad sydd yn annhebyg i ddim arall – un na fyddech yn anghofio. Mae pethau materyddol yn aml yn cael ei daflu ac yn cael ei anghofio, sydd yn gwastraffu darn bach, ond sylweddol, o’n byd. Dyma restr Going Zero Waste am 50 syniad am anrhegion profiad sydd yn amrywio o ran cost – o goffi i wyliau.
Bwyd
Yn olaf, wrth ddefnyddio bwyd dros ben o’r oergell a’r rhewgell gall pobl ddod yn gynaliadwy. Wrth gadw trac o’r hyn sydd yn cael ei brynu a’i daflu, byddech chi’n gwastraffu llai o fwyd. Mae yna dystiolaeth hefyd bod dyddiadau ‘Best Before’ yn gamarweiniol ac yn golygu bod pobl yn taflu bwyd yn rhy fuan. Edrychwch ar rai o’r ryseitiau yma gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn defnyddio bwyd dros ben.
Ar y cyfan, prif syniad cynaladwyedd ydy canolbwyntio ar anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenhedlaeth y dyfodol i gyfarfod eu hanghenion. Yn fyr, mae angen i ni wneud newidiadau bach yn y ffordd rydym yn byw fel nad yw cenhedlaeth y dyfodol yn gwneud yr un camgymeriadau.