Trafod Cynaladwyedd Dros Baned o De
Comments Off on Trafod Cynaladwyedd Dros Baned o DeYsgrifennwyd yr erthygl hon gan Victoria Williams mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.
Mae pawb yn bwriadu bod yn ecogyfeillgar a chael effaith positif ar ein byd, ond oeddech chi’n gwybod bod yfed eich paned arferol yn gallu achosi difrod?
Pam? Prydain yw’r drydedd wlad sydd yn yfed y mwyaf o de yn y byd (y tu ôl i Dwrci a’r Iwerddon), ond nid yw’r te yma yn cael ei dyfu gartref. Mae’r mwyafrif yn dod o’r Affrica (Kenya yn enwedig), Sri Lanka, India a Tsieina. Mae hyn yn llawer iawn o amser teithio i’n hoff ddiod boeth.
Yn ogystal, mae’r bagiau yn aml yn cynnwys plastig ac nid ydynt yn troi’n gompost yn iawn – felly mae’r miloedd rydym yn ei yfed bob dydd, fel arfer, yn mynd i dirlenwi. Hyn i gyd cyn hyd yn oed ystyried y trydan ychwanegol sydd ei angen i bweru miloedd o degellau am hanner amser pan fydd y bêl droed ymlaen.
Yn ôl Cyfrifydd Bwyd Newid Hinsawdd y BBC, mae yfed ychydig gwpanau’r dydd, bob dydd, am flwyddyn yn allyrru 30kg o garbon bob blwyddyn – cymaint â gyrru car petrol am 78 milltir. Y newyddion gorau i de ydy bod coffi, cwrw a gwin yn waeth nag hynny.
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2019/11/My-Post.jpg)
Paned eco-ymwybodol
Mae yna gwmnïoedd yn bodoli sydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Os ydych chi’n dymuno gwneud dewis mwy cynaliadwy pan ddaw at eich hoff baned, yna edrychwch ar y rhestr isod.
1. Cornish Tea Company
![Box of Cornish Tea for sustainabili-TEA article](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2019/09/6_258_E400_Years_Supply_of_Tea_1a62c0.jpg)
Mae prynu a defnyddio bagiau te yn rhywbeth sydd yn rhaid gwneud i chi gael yfed te. I helpu’r amgylchedd newidiwch i fagiau bioddiraddadwy. Mae “bagiau ymdoddiad” arbennig Cornish Tea yn cynnwys sawl blas ac wedi’u creu o fagiau 100% corn startsh bioddiraddadwy.
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2019/09/3839c0ca6a8677444058bec863486292.w4267.h1830._CR02884267853_SX1280_-1024x205.jpg)
2. Tea Pigs
Brand cynaliadwy arall ydy Tea Pigs. Maent yn creu amrywiaeth eang o flasau ar gyfer unrhyw dymer a sefyllfa. Maent yn credu dylai te fod yn bur ac yn syml, ac maent yn gwireddu hyn wrth beidio ychwanegu unrhyw beth niweidiol. Mae’r pecynnu yn gwbl rydd o blastig a nhw yw’r brand cyntaf i dderbyn y Plastic Free Trust Mark.
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2019/09/images-1.png)
3.Clipper Tea
Mae Clipper yn frand naturiol a chwbl organig. Maent yn derbyn arweiniad o egwyddorion organig ac wedi ymrwymo i fod yn rhydd o organebau wedi’i haddasu’n enetig (OAG) wrth ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau sydd ddim yn OAG. Mae’r brand ei hun yn canolbwyntio ar ddarganfod ffyrdd newydd i fod yn naturiol yn gyson.
![](https://evi.cymru/wp-content/uploads/2019/09/Numi-4.png)
4.Numi Teas
Mae Numi yn cyflawni ymhob agwedd pan ddaw at gynaladwyedd. Nid yn unig wrth ddefnyddio cynhwysion sydd yn dod yn syth o’r planhigion 100% ond wrth ddefnyddio pecynnu cynaliadwy hefyd. Maent hefyd yn cyfrannu rhoddion i osod yn erbyn eu hallyriadau carbon a chefnogi sefydliadau amgylcheddol dielw.
Felly dyna chi, y brandiau gorau i ganiatáu i chi fwynhau eich paned o de heb deimlo euogrwydd amgylcheddol. Mwynhewch!