EVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale InstituteEVI | Ebbw Vale Institute : Ebbw Vale Institute

Launch Menu Launch Menu

Tag Archive: bioamrywiaeth

  1. Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    Comments Off on Ffyrdd Hawdd i Leihau Carbon i’r Amgylchedd

    English article here

    Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Thomas Morris mewn gweithdy diweddar yn yr EVI. Gwirfoddolodd aelodau’r gymuned i greu cynnwys yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Yn ystod y gweithdai fideo a blogio yma dysgwyd sut i greu cynnwys ar-lein eu hunain. Gwnaed hyn yn bosib gydag arian o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Edrychwch ar ein herthyglau eraill ar waelod y dudalen.

    Braf yw meddwl bod trwsio ein hamgylchedd anniben yn broblem i rywun arall. Ond mae gan bawb gyfrifioldeb i ddangos i’r rhai sydd mewn grym ein bod eisiau gofalu am ddyfodol bodolaeth ein planed a’r dynol ryw. Byddaf yn dangos ffyrdd hawdd i leihau carbon yn eich bywyd bob dydd.

    Rolls of material for cutting carbon article

    Gwisg y dydd – bob dydd

    Yn ôl pob sôn, mae yna rai pobl sydd yn gwisgo gwisg unwaith yn unig! O ystyried y swm enfawr o ynni ac adnoddau defnyddir gan y diwydiant tecstilau, mae hyn yn syniad ofnadwy! Meddyliwch am yr arian sydd yn cael ei wastraffu wrth ddefnyddio rhywbeth unwaith. Ail-wisgwch eich dillad i gyd. Edrychwch yn steilus bob dydd a gyrru neges i ffasiwn sydyn – mae’n hen bryd i hyn stopio!

    Symud yn fwy gwyrdd

    Mae yna sawl ffordd i deithio o ddydd i ddydd yn wyrdd. Y peth da am wyrddeiddio eich trafnidiaeth ydy bod hyn yn gwella’r amgylchedd lleol yn ogystal â byd eang. Ond, efallai bydd hi’n dipyn o her yn nhermau’r wleidyddiaeth.

    • – Defnyddiwch eich car llai wrth ddefnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth pan fyddech chi’n teithio eich hun.
    • – Wrth feddwl am symud tŷ, rhaid ystyried potensial trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth weithgar eich lleoliad. Dywedwch wrth ddatblygwyr tai na fyddech chi’n prynu tŷ os nad yw’n agos i orsaf trenau.
    • – Ysgrifennwch i gwmnïau rheilffordd i ofyn am fwy o barcio i feiciau mewn gorsafoedd rheilffordd, a pharcio gwell.
    • – Yn hytrach nag prynu ail gar, gallech chi ystyried beic trydan.
    • – Addysgwch eich ffrindiau e.e. oeddech chi’n ymwybodol nad yw ceir hybrid mor gyfeillgar i’r amgylchedd ag y mae’r hysbysebwyr yn ceisio dweud? Mae llawer yn achosi mwy o lygredd na cheir petrol (ond nid disel)
    • – Yn hytrach na phrynu car eich hun, gallech chi ystyried ymuno â chlwb rhannu ceir am y cyfnodau pan fyddech chi angen car
    • – Gofynnwch i’r Llywodraeth i roi mwy o gymhorthdal i deithio cyhoeddus ac actif , yn fwy nag y maent yn cymorthdalu teithio car preifat gyda thanwydd rhad, parcio am ddim ayb yn bresennol.
    • – Gweithio i greu strydoedd a threfi y gellir byw a cherdded ynddynt – os yw’n trefi genedigol yn iwtopaidd, yna ni fydd angen cymaint o wyliau a bydd llai yn hedfan.

    Newid i dariff ynni gwyrdd

    Er bod holl ynni’r Grid Cenedlaethol wedi cymysgu â’i gilydd (nid oes posib gwybod os yw’n dod o ynni glo neu wynt) gallech chi ddewis talu eich biliau i gwmni ynni sydd yn darparu ynni i’r grid o ffynonellau cynaliadwy yn unig.

    Newid i LED a ffenestri dwbl

    Ond nid os ydych chi wedi newid eich goleuadau a’ch ffenestri yn ddiweddar. Bydd hyn yn arbed arian. Dyma sydd wedi bod yn digwydd yn yr EVI yn ddiweddar gydag arian o Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Gwyliau Gartref

    Ceisiwch lynu at un daith awyren y flwyddyn os yn bosib. Mae’n debyg nad ydych chi wedi ymweld â llawer iawn lefydd yn y DU. Beth am ystyried taith amlfodd beic-ar-drên i chi’ch hun, neu bacio’r car a mynd i rywle newydd gyda’r teulu i gyd.

    Ni fyddech yn cyfrannu at erydiad llefydd enwog fel Fenis oherwydd twristiaeth, a byddech yn gwario’ch arian ar economïau lleol Prydeinig sydd yn aml yn dioddef.

    Dihatru a boicotio tanwydd ffosil

    Peidiwch roi arian i fanciau sydd yn buddsoddi mewn olew. Gofynnwch i’ch ysgol, cwmni ayb i dynnu stociau allan o olew. Gofynnwch beth mae eich pensiwn yn buddsoddi ynddo.

    Paratoi wrth siopa

    Os ydych chi’n ceisio lleihau eich gwastraff plastig, bydd angen i chi baratoi cyn mynd i siopa. Gallwch chi gario bocsys a jariau i’r siop i brynu pethau rhydd a’u cadw’n lân. Efallai byddech chi’n gwario llai hefyd wrth brynu’r pethau rydych chi eu hangen yn unig.

    Er mwyn lleihau eich teithiau yn y car ymhellach dylech chi feddwl beicio i’r siop neu brynu ar-lein. Gall busnesau ystyried cael beic llwyth yn rhatach trwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

    Bwyta’n lleol a bwyta llai o gig

    Un o’r bwydydd sydd yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr uchel yw cig eidion. Mae bwyta llai o gigoedd fel cig eidion, cig oen a phorc yn ffordd dda i leihau’ch ôl troed carbon.

    Ond os yw’r holl fwydydd ffres yn cael ei hedfan o dramor yna mae byw ar ddiet fegan yn gallu bod yn ddrud iawn i’r Ddaear hefyd . Chwiliwch am fwyd sydd yn cael ei dyfu ym Mhrydain, neu Ewrop o leiaf – efallai bydd angen mabwysiadu diet mwy tymhorol.

    Dysgu pobl sut i ailgylchu’n well

    Helpwch y bobl o’ch cwmpas i ailgylchu’n well. Os ydych chi’n eu hadnabod yn dda yna byddech chi’n deall sut i gael ar yr ochr dda ohonynt!

    Gadael y peiriant torri lawnt i rydu

    Gallech chi wella bioamrywiaeth leol wrth adael i’ch gardd dyfu’n wyllt – peidiwch torri’r lawnt. Dyma pam:

    • – Mae’r mwyafrif o beiriannau torri lawnt yn gweithio gyda phetrol neu drydan, felly bydd hyn yn defnyddio llai o danwydd ffosil.
    • – Byddech chi’n cyfrannu at fioamrywiaeth leol. Mewn dinasoedd modern bydd gwenyn, glöyn byw a llawer o drychfilod eraill yn chwilio am le i nythu. Bydd eich gardd o hyfrydwch – yn hytrach nag darn o lawnt ddiflas wedi’i dorri – yn cynnig cartref clud iddynt.
    • – Mae gadael i’r ardd dyfu’n wyllt yn helpu’r blaned ond mae’n ymddwyn fel sinc carbon lleol hefyd.
    • – Defnyddiwch fomiau hadau i blannu blodau gwyllt a chael pwll bach – efallai gallech chi ddefnyddio hen deiar a tharpolin i greu ardal wlyb i drychfilod. Fe wnaethom hyn yr EVI yn ein gweithdai bomiau blodau a thrychfilod.

    Felly dyna chi, gobeithio bod rhai o’r awgrymiadau uchod yn eich helpu i leihau eich defnydd o garbon a chwarae eich rhan i helpu’r amgylchedd. Efallai nad yw un person yn gostwng ei ddefnydd o garbon yn cael llawer o effaith, ond os yw pawb yn penderfynu gwneud y newidiadau bach yma, yna gallai wneud gwahaniaeth mawr.

    Erthyglau perthnasol

  2. Creu Paradwys Trychfilod ar Gyfer Bioamrywiaeth

    Comments Off on Creu Paradwys Trychfilod ar Gyfer Bioamrywiaeth

    English article here

    Ar gychwyn fis Mehefin bu grŵp o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Gweithdy Gardd Wyllt yn Institiwt Glynebwy. Bu’r criw yn creu gwestai trychfilod a bomiau hadau fydd yn help i’r trychfilod peillio a gwella’r ardal o amgylch yr adeilad.

    Yn cymryd rhan yn y gweithdy arbennig yma wedi’i gynnal gan Eggseeds roedd pobl ifanc o Llamau, Hyfforddiant ACT a Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent. Mae Eggseeds yn sefydliad sydd yn dysgu addysg awyr agored am natur a bioamrywiaeth. Trefnwyd y gweithdy fel rhan o gyfres o fesurau cynaliadwy yn yr EVI, wedi’i wireddu o ganlyn Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, prosiect sy’n cael ei gefnogi gan yr WCVA.

    Tai chwilod yn cael eu peintio - paradwys trychfilod
    Peintio’r gwestai trychfilod mewn lliwiau llachar hyfryd

    Llefydd ar osod yn y gwesty trychfilod

    Cychwynnodd y gweithdy wrth adeiladu gwestai trychfilod, adeiladau pren bach gall fod yn gartref i bob math o bryfaid a rhai adar hyd yn oed. Mae’r adeiladau pren yma wedi cael eu gosod ar slab mawr o AstroTurf a’i osod o fewn yr ardd gymunedol o flaen yr EVI. Bydd hwn yn creu stryd fach uchel i’r trychfilod ffynnu ynddi.

    Ond cyn i’r adeiladau fod yn barod i groesawu’r trychfilod roedd rhaid tacluso tipyn arnynt er mwyn tynnu sylw unrhyw un sydd yn cerdded heibio. Dechreuodd y bobl ifanc wrth beintio’r tai a gwestai trychfilod!

    Tu mewn i'r tai chwilod
    To bwrdd sialc, gyda llenwad gwellt a bambŵ

    Denu’r trychfilod

    “Bydd y tri adeilad mwyaf yn denu pryfaid sy’n hedfan. Efallai bydd gwenyn, pili-pala ac adain siderog (lacewing) yn hoff o nythu ynddynt,” eglurodd Sam o Eggseeds.

    “Bûm yn stwffio’r tai llai llawn llwch lli gydag ychydig o fylchau bychan i gael i mewn. Mae hwn yn berffaith i chwilen dyrchu iddo. Ychwanegwyd tyllau crwn mwy i rai o’r tai llai hefyd, i greu gofod nythu perffaith i adar.”

    Ar ôl peintio’r rhain, gosodwyd y toeau bwrdd sialc (perffaith i ysgrifennu negeseuon arnynt) gyda hoelion ac offer pŵer. Llenwyd y tai gyda llwch lli a thiwbiau bambŵ wedi’u torri. Mae stwffin llwch lli yn creu awyrgylch hydrin i’r trychfilod dyrchu a nythu ynddo. Meddyliwch am yr holl arwynebedd ychwanegol sydd i fedru llithro eu cyrff bach i mewn iddo ac ymlusgo ar ei hyd. Gobeithir bydd y tiwbia bambŵ yn dod yn le i’r gwenyn ddodwy wyau.

    bomiau hadau gorffenedig
    Mae bomiau hadau yn ffordd wych o blannu blodau gwyllt

    Bomiau’n blodeuo

    Gyda’r adeiladau trychfilod yn edrych yn wych roedd hi’n hen bryd symud ymlaen i’r gweithgaredd nesaf – creu’r bomiau hadau. Mae bomio hadau yn hen dechneg ffermio organig Japaneaidd, ffordd o hadu sydd yn well i’r tir ac yn amddiffyn yr hadau rhag cael eu bwyta gan adar a bywyd gwyllt fel arall. Dyma ffordd wych i gynyddu bioamrywiaeth yn eich ardal leol.

    Defnyddiwyd hadau blodau gwyllt gwydn. Gan fod yr hadau yn cael eu cau mewn pridd wedi’i bacio’n galed, nid yw’n hawdd i adar eu bwyta ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddechrau tyfu.

    dwylo mwdlyd yn rholio bomiau hadau
    Dwylo mwdlyd wrth greu bomiau hadau

    Sut i greu Bomiau Hadau eich hun:

    Cam 1: Defnyddiwch ychydig o glai gwlyb a’i gymysgu gyda phridd. Rholiwch hwn yn belen a rhoi tolc ynddo gyda’ch bys

    Cam 2: Dewiswch dau neu dri hedyn a’u gollwng i mewn i’r tolc. Os ydych chi’n rhoi mwy yna bydd yr hadau yn cystadlu am yr adnoddau yn y ddaear a ddim yn tyfu i’w llawn botensial

    Cam 3: Tylinwch yr hadau i mewn i ganol y belen

    Cam 4: Taflwch y bom hadau ar unrhyw dir ffrwythlon neu ddiffaith a gobeithio bydd y planhigion yn tyfu

    tai chwilod yn eu lle
    Y gwestai a thai trychfilod yn edrych yn wych y tu allan i’r EVI

    Byddwch yn arwr bywyd gwyllt

    Mae’n eithaf hawdd cyfrannu at fioamrywiaeth eich ardal leol. Beth am gymryd rhai o’r syniadau uchod a chreu paradwys i adar a thrychfilod yn eich gardd chi? Roedd y cyfranogwyr yn hapus iawn gyda’r canlyniadau ac i ffwrdd â nhw adref wedi dysgu sgiliau gwerthfawr diolch i’r tîm Eggseeds am eu profiad a’u gwaith caled.


    Ariannwyd y gweithdy hwn drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Derbyniodd yr EVI arian i wella effeithiolrwydd ynni’r adeilad, cynyddu bioamrywiaeth yn lleol a chynnwys y gymuned drwy wirfoddoli.

    Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o erthyglau ar y sawl ffordd rydym yn hyrwyddo cynaladwyedd yn Institiwt Glynebwy. Darllenwch y gweddill yma:

Foundation Funders:

National Lottery Community Fund Logo
Welsh Government Logo

Current Funders:

Lloyds Bank Foundation Logo
Landfills Tax Scheme Logo
WCVA Logo
Blaenau Gwent County Council Logo
UK Gov Wales

Privacy Policy | Web Accessibility Policy