Cynyddu Effeithiolrwydd Ynni’r EVI
Comments Off on Cynyddu Effeithiolrwydd Ynni’r EVIMae Institiwt Glynebwy yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid o £32,523 gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hwn yn rhaglen gyllido Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei redeg gan WCVA.
Bwriedir gwella effeithiolrwydd ynni’r EVi gan gynyddu’r fioamrywiaeth leol a chynnwys y gymuned gyda gwirfoddoli a rhannu’r hyn dysgwyd.
Yr EVi
Mae’r EVi yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru. Rydym yn lleoliad cymunedol sydd yn garreg filltir, yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol. Mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector gan gynnwys Barnardo’s, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent, Llamau, Leeders Vale, Gyrfa Cymru a Learn About Us.
Mae dros 5,000 o bobl yn ymweld â’r EVi bob mis, gydag amrywiaeth eang o ddefnyddiau a defnyddwyr i’r adeilad cymunedol yma. Bydd lleihau’r defnydd o egni mewn adeilad mor fawr yn creu arbedion sylweddol, ac yn helpu gostwng ein hôl troed carbon.
Gwella’r adeilad
Eleni mae’r EVi yn dathlu 170 mlynedd. Mae dros degawd ers i ProMo-Cymru ddechrau rhedeg yr adeilad. Pan symudwyd i mewn i’r adeilad yn wreiddiol, gwyddom fod angen llawer o waith i wella ffabrig yr adeilad. Cychwynnodd y gwaith gyda’r dyfodol mewn meddwl. Gosodwyd dau bwmp gwres ddaear o’r radd flaenaf i gynhyrchu gwres mwy effeithlon. Diolch i’r gronfa hon, byddem yn gweithredu nifer o nodweddion arbed egni eraill cyn hir. Byddem yn cynnwys y gymuned fel gwirfoddolwyr i helpu cynyddu bioamrywiaeth o amgylch yr adeilad.
Efallai nad yw effeithiolrwydd ynni ac arbed arian yn swnio’n gyffrous iawn i’r rhai sydd yn defnyddio’r adeilad, ond mae’n bwysig iawn i bopeth sydd yn digwydd yn yr EVi. Mae’r gwaith tu ôl i’r llenni yma yn caniatáu i’r EVi barhau i gefnogi’r gymuned leol. Dros y flwyddyn nesaf byddem yn gofyn i’r gwirfoddolwyr a’r staff yn yr EVi i rannu barn am pam bod yr EVi yn le mor arbennig i weithio a chwarae. Rydym yn gyffrous iawn hefyd i gael y bobl ifanc sydd yn defnyddio’r adeilad i rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Byddem yn darlledu popeth dros ein sianeli digidol. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael gweld y gwaith mae ProMo-Cymru a’r gymuned yn ei wneud i ddatblygu cynaladwyedd yng Nglynebwy.
Mae hwn yn brosiect wedi’i gefnogi gan y WCVA trwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Os hoffech wybodaeth bellach am logi’r cyfleusterau’r EVi yna cysylltwch i ddarganfod mwy.